Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Am fod i ni fri rhyngwladol am ragoriaeth mewn ymchwil ac addysgu, mae yma amgylchedd cyffrous a rhyngddisgyblaethol i fyfyrwyr fynd ar drywydd eu diddordeb mewn ieithoedd.

school of modern languages

O leoliad canolog yn y Brifysgol, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth drawiadol o gyrsiau gradd i’r rhai sydd â diddordeb brwd mewn ieithoedd a diwylliannau. Prawf o arbenigedd addysgu mewn Tsieinëeg, Ffrangeg, Almaeneg,Eidaleg, Portiwgaleg, Sbaeneg a Japaneeg, sy’n golygu y bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth drylwyr o’r iaith o’u dewis, ei llenyddiaeth, ei diwylliant a’i hanes.

Gyda thros 800 o fyfyrwyr a 40 o staff academaidd, rydyn ni’n cynnig amgylchedd cyfeillgar, amrywiol, a thiwtoriaid personol sy’n sicrhau eich bod chi’n cael cefnogaeth drwy gydol cwrs gradd. Mae digwyddiadau rheolaidd, darlithoedd a gweithgareddau wedi eu trefnu’n cyfrannu at awyrgylch bywiog a myfyrwyr sy’n cael eu hannog i gymryd rhan.

Diolch i gysylltiadau agos â phrifysgolion rhagorol ledled Ewrop a thu hwnt ceir dewisiadau cyffrous ar gyfer blwyddyn dramor i ymgolli mewn diwylliant tramor. Trwy ein partneriaeth gyda Phrifysgol Normal Beijing, gall myfyrwyr deithio ymhellach i Tsieina pan fyddant yn cofrestru i'n rhaglenni Tsieinëeg.

Gall myfyrwyr hefyd ddod yn rhan o'r cynllun Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith, sy'n cynnig cyfle gwych i weithio gydag ysgolion ledled Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd ieithoedd.

Rydyn ni’n ymrwymedig iawn i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith ein staff a’n myfyrwyr, ac rydyn ni wedi cyrraedd lefel Efydd yn nod siarter cydraddoldeb rhywedd treial yr Uned Herio Cydraddoldeb. Serch ein golwg rhyngwladol ar y byd, rydyn ni wedi meithrin cysylltiadau cryf â’n cymuned leol a byddwn ni’n manteisio i’r eithaf ar fyw a gweithio ym mhrifddinas Cymru

Sefydliad Confucius

Yma y mae cartref Sefydliad Confucius. Mae canolfan y Sefydliad yng Nghaerdydd yn anelu at hyrwyddo iaith a diwylliant Tsieina yng Nghymru a chefnogi cydweithredu rhwng Cymru a Tsieina. Lansiwyd y Sefydliad yn 2008 ac mae'n bartneriaeth rhwng Prifysgol Xiamen yn ne-ddwyrain Tsieina a Phrifysgol Caerdydd. Fe'i cefnogir gan yr Hanban - Swyddfa Cyngor Rhyngwladol Iaith Tsieinëeg Tsieina.

Mae bron i 500 o Sefydliadau Confucius o gwmpas y byd, ac mae pob un yn gwasanaethu ei gymuned mewn ffordd wahanol. Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar addysgu iaith ac wedi ei seilio ar ein hehangder helaeth o arbenigedd. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Sefydliad Confucius.