Ewch i’r prif gynnwys

Sgwrs gyda cynfyfyriwr: Nicholas Bullock BSc, MBBCh, MRCS

Dr Nicholas Bullock BSc, (MBBCh 2013), MRCS
Dr Nicholas Bullock BSc, (MBBCh 2013), MRCS.

Mae Nick yn Gymrawd Trac Academaidd Clinigol Cymru ac yn arbenigwr wroleg ym Mhrifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Ar hyn o bryd, mae Nick yn astudio ar gyfer PhD yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewrop gan geisio lleddfu cancr aeddfed y prostad trwy gryfhau effaith atalyddion PARP.

Dyma ddiwrnod arferol i Nick: “Dechrau gyda chyfarfod labordy neu drafodaeth anffurfiol ac, wedyn, bydda i’n cynnal arbrofion yn y labordy. Efallai y bydda i’n hwyluso darlith i fyfyrwyr meddygol yn y prynhawn ac yn treulio’r noson ar ddyletswydd. Mae’r pontio rhwng gwaith clinigol a’r labordy yn ymestynnol ond does dim amheuon gyda fi y bydd yn werthfawr iawn i’m datblygiad personol a phroffesiynol.”

Ar ôl graddio, symudodd Nick o Gaerdydd i Fryste i ymgymryd â rhaglen sylfaen academaidd. Meddai: “Er bod pryderon gyda fi am symud i fro ac ysbyty newydd, cwrddais â rhai pobl wych a datblygu’n aruthrol yno. Ar ôl rhai blynyddoedd yn fyfyriwr yn GIG Cymru, roedd yn fuddiol gadael er mwyn profi sefydliad, trefn ac isadeiledd gwahanol. Ar ben hynny, roedd modd pwyso a mesur holl fanteision byw a gweithio yng Nghymru ac, o ganlyniad, penderfyniad fy ngwraig a minnau oedd dychwelyd.”

Ar ôl dod yn ôl i Gymru, cymerodd Nick ran mewn hyfforddiant llawfeddygol craidd, wroleg ei thema, rhwng Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Treforys ac Ysbyty Athrofaol Cymru. Meddai: “Defnyddiais y ddwy flynedd hynny i feithrin medrau llawfeddygol sylfaenol, sefyll arholiadau’r aelodaeth a chryfhau fy mhortffolio academaidd.

Ar ôl yr hyfforddiant, cyflwynais gais llwyddiannus am gymrodoriaeth WCAT. Os oes unrhyw wers i’w dysgu yn sgîl fy ngyrfa fer hyd yma, dyfalbarhau yn wyneb ‘methiant’ tybiedig fyddai honno. Mae meddygon braidd yn gyfarwydd â llwyddiant ond dywedodd fy hen oruchwyliwr unwaith nad y llwyddiant fydd yn eich diffinio, ond eich ffordd o ymdopi â methu.”

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 30 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 30

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.