Ewch i’r prif gynnwys

Cynnydd ‘arch-fygiau’ ledled y byd – pam mae angen inni ymgysylltu

Superbugs
'Superbugs – The End of Modern Medicine as we know it?' public engagement evening event in the Welsh capital’s science centre Techniquest.

Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd achlysur ymgysylltu cyhoeddus, ‘Arch fygiau – diwedd meddygaeth fodern ar y ffurf rydyn ni’n ei hadnabod?’, yng nghanolfan wyddonol prifddinas Cymru, ‘Techniquest’, ar y cyd â’r byd diwydiannol ac elusennau.

Yn rhan o Wyl Arloesi Cymru, denodd yr achlysur dros 300 o ymwelwyr o bob oed a hysbysu pobl o’r modd mae’r corff yn
gwrthsefyll germau ‘drwg’ sy’n ein gwneud yn sâl ac yn defnyddio germau ‘cyfeillgar’ i’n cadw’n iach.

Cyfarfu’r ymwelwyr â gwyddonwyr a meddygon sy’n mynd i’r afael â’r duedd gynyddol i wrthsefyll cyffuriau gwrthfiotig ac ymlediad heintiau nad oes modd eu trin ar draws y byd. Dysgon nhw sut mae gwrthfiotigau’n gweithio a pham mae’n well eu hosgoi weithiau, hefyd.

Superbugs
One of the many exhibits at our Superbugs event.

Trwy 17 stondin yr arddangosfa, gallai’r ymwelwyr edrych ar yr ymchwil ddiweddaraf i ymwrthedd gwrthficrobaidd, ystyried rhagdybiaethau cyffredin megis y rhai ynglyn â brechlynnau a datgodio arwyddion cynnar sepsis. Cynigiodd stondin Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain rith-daith 360-gradd trwy’r corff i weld sut y gall yr ymchwil bresennol i dechnoleg drawsffurfio triniaeth y dyfodol.

Deilliannau’r seminar

Superbugs: techniquest
‘Archfygiau – diwedd meddygaeth fodern ar y ffurf rydyn ni’n ei hadnabod?’, yng nghanolfan wyddonol prifddinas Cymru, Techniquest.

Cyrraedd

  • Daeth dros 300 o bobl.
  • Grwpiau ffocws cleifion, elusennau (Ymddiriedolaeth Sepsis y DU) adiwydiant (ABPI).
  • Fe roes 171 o ymwelwyr gynnig ar ‘helfa drysor’ y sticeri gan ddangos tystiolaeth o gymryd rhan mewn 1539 o weithgareddau

Effaith

  • Rhagor o ymwybyddiaeth o’r anawsterau ynglyn ag ymwrthedd a heintiau gwrthficrobaidd.
  • Hyrwyddo’r ymchwil mae Prifysgol Caerdydd yn ei llywio i ymwrthedd gwrthficrobaidd.
  • Dangos gweithgareddau ymgysylltu a chynnwys cryf.
  • Datblygu partneriaeth strategol agosach â Techniquest.
  • Cyfrannu at ragor o ymchwil i ymwrthedd o’r fath, darganfod cyffuriau, pennu cyffuriau gwrthfiotig, adnabod heintiau a sepsis.
  • Ysgogi myfyrwyr i ystyried gyrfa ym maes ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • Rhagor o ymwybyddiaeth o weithgareddau rhaglen ‘Gwyddoniaeth ym maes Iechyd’ Ysgol Meddygaeth Caerdydd.
  • Deall yn well pa mor bwysig yw rôl y werin bobl yn ymchwil ac addysg y Brifysgol yn ogystal â’r ‘gwerth ychwanegol’ a ddaw  ganlyniad.

Rhagor o wybodaeth

Hoffai Ysgol Meddygaeth Caerdydd gynnwys pobl leyg yn ei gweithgareddau ymchwil ac addysgu.

Mae modd dysgu rhagor am weithgareddau ymgysylltu Ysgol Meddygaeth Caerdydd a’r ysgolion a’r cyhoedd trwy gysylltu a:

Tîm Ymgysylltu Meddygol

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 29 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 29

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.