Ewch i’r prif gynnwys

Sgwrs gyda chynfyfyriwr: Yr Athro David Owens CBE MD FRCP

Ymgymhwysodd David yn Ysgol Genedlaethol Meddygaeth Cymru ym 1966 gan ennill clod ym mhynciau ffarmacoleg a therapiwteg.

Professor David Owens

Ar ôl graddio, roedd David yn swyddog ty dros feddygaeth a llawdriniaeth yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac, wedyn, yn uwch swyddog ty yn Ysbyty Sili. Bu mewn swydd ymchwil yn y diwydiant fferyllol amsbel cyn ddychwelyd i Brifysgol Caerdydd yn ddarlithydd ffarmacoleg glinigol a  therapiwteg.

Penodwyd David yn uwch ddarlithydd a diabetolegwr ymgynghorol wedyn cyn ei phenodi’n athro diabetes ym Mhrifysgol Caerdydd tua dechrau’r 1990au (Ysbyty Llandochau oedd ei ganolfan ar gyfer gwaith clinigol ac ymchwil). Mae David wedi
cyhoeddi dros 400 o erthyglau i’w cynnwys mewn llyfrau. David fu cyfarwyddwr clinigol cyntaf Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi
Diabetig, hefyd. Ers ymddeol yn 2006, mae Prifysgol Caerdydd wedi penodi David yn athro emeritws. Yn y rôl honno, mae e
wedi helpu amryw wledydd megis Mauritius, Trinidad a Pheriw i ddatblygu gwasanaethau clefyd y siwgr.

Mae ganddo atgofion melys am Gaerdydd megis: “Dadelfennu cyrff yn adran yr anatomi yn ystod fy nghyfnod yn fyfyriwr cyn-glinigol, gweld cleifion mewn ward yn ystod y diwrnod cyntaf yn fyfyriwr clinigol, ymweld ag Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Ysbyty Llandochau ac Ysbyty Dewi Sant, cymryd rhan yn y clwb rhwyfo ac, yn olaf, dydd y graddio.”

‘Rhagoriaeth Gofalu am Gleifion’ eleni, rhoes Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ei Wobr Ryngwladol i David am ei waith clinigol eithriadol sydd wedi cyfrannu at ragoriaeth gofal o’r fath tramor.

Meddai David: “Mae gwobr Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ar gyfer fy ngwaith rhyngwladol ym maes diabetes yn anrhydedd mawr.
Mae datblygu gwasanaethau megis chwilio am glefyd diabetig y llygaid, rhoi addysg ar broblemau diabetig y traed a gofalu am
blant a phobl ifanc ac arnynt glefyd y siwgr wedi bod yn brofiad dymunol a buddiol iawn. I gyflawni’r gwaith hwnnw, roedd angen tîm o arbenigwyr gofal iechyd o Gymru ar gyfer pob is-faes.”

I gloi, meddai David “Fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd fu sylfaen fy holl yrfa yn y deyrnas hon a’r tu hwnt iddi fel ei gilydd. Mae cymorth gwasanaethau TG, y llyfrgell a’m cydweithwyr wedi bod yn hollbwysig.”

Disgrifiad cryno David o Ysgol Meddygaeth Caerdydd: Sefydliad rhagorol yng Nghymru ac iddo enw da ledled y byd.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 29 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 29

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.