Ewch i’r prif gynnwys

Hwyl yr wŷl yng Ngŵyl Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) Caerdydd

Hwyl yr wŷl yng Ngŵyl Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) Caerdydd.

Bu Canolfannau’r MRC ar draws y DU ac mewn rhannau o Affrica yn dathlu trydedd Wyl Ymchwil Meddygol yr MRC rhwng 14 a 24 Mehefin 2018.

Yng Nghaerdydd, yng Nghanolfan Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg (MRC CNGG), mae’r tîm yn ymfalchïo mewn cynnal digwyddiadau ysbrydoledig, unigryw a gafaelgar i nodi’r wyl, ac nid oedd eleni yn eithriad.

Croesawyd dros 80 o westeion i’r DEPOT am y noson, lle cawsant gyfle i ddysgu am y gwahanol feysydd ymchwil sy’n digwydd yn MRC CNGG ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd bachu hwyaden, neu yn yr achos hwn, bachu dwy riant-hwyaden, yn esbonio ein tebygolrwydd o etifeddu nodweddion penodol. Roedd Chwarae dy Gardiau Genetig yn dangos sut gall ffactorau amgylcheddol a genetig gael effaith gadarnhaol neu negyddol arnom ni a’r ffordd rydym ni’n datblygu. Roedd stondin coconyt yn efelychu cyfres o’n genom ac yn esbonio sut gall genynnau coll neu wedi’u dileu achosi neu gyfrannu at gyflyrau niwrolegol.

Yn ogystal â gemau, cafodd sgyrsiau byr a bachog eu cynnal yn y DEPO Speakeasy. Trafododd Dr Lynsey Hall, Dr Katie Lewis, Dr Xavier Caseras a Dr James Hrastelj geneteg, geneteg cwsg, niwroddelweddu ac ymchwil i sglerosis ymledol yn eu tro.

Diolch i’r Ffwrnes Pizza am ddarparu llif cyson o sleisys pizza ar y noson, ac i’r consuriwr Adam James Reeves a syfrdanodd bawb gyda’i ddewiniaeth agos.

Weld mwy o luniau o’r Ffair Wyddoniaeth, ewch i dudalen Facebook MRC CNGG.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 29 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 29

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.