Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnodau Blas ar Feddygaeth

Medicine Taster Days
Medicine Taster Days offer sixth form pupils a great opportunity to find out what medical school is really like.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Diwrnodau Blas ar Feddygaeth i gefnogi disgyblion y chweched dosbarth sy’n bwriadu astudio Meddygaeth.

Diwrnodau Blas ar Feddygaeth

Mae Diwrnodau Blas ar Feddygaeth yn cynnig dewis o ddau ddiwrnod unfath sy’n llawn gweithgareddau a chyflwyniadau sy’n ymwneud â Meddygaeth. Mae dwy raglen ar gael ar y ddau ddiwrnod. Mae un o’r rhaglennu wedi ei theilwra’n arbennig ar gyfer myfyrwyr ac mae’r llall wedi’i theilwra at anghenion rhieni,

Mae’r Rhaglen Myfyrwyr ddiwrnod-lawn yn cynnwys elfennau hanfodol ynghylch bod yn feddyg, gyda chyflwyniadau ar y canlynol:

  1. proses ddethol Ysgol Meddygaeth Caerdydd
  2. Bywyd fel Meddyg
  3. Cyllid ar gyfer eich gradd feddygol
  4. Dysgu ar Sail Achosion
  5. panel holi ac ateb.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol ar y pynciau canlynol:

  1. Sgiliau Clinigol
  2. Ystafell Efelychu
  3. bywyd fel myfyriwr meddygol
  4. Cyfres o Gyfweliadau Bychain (MMIs)
  5. ysgrifennu eich datganiad personol.

Mae Diwrnodau Blas ar Feddygaeth eleni ar 22 a 23 Mehefin.

I archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim poblogaidd hwn

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 28 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy edition 28

Darllenwch nhw i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.