Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno Pennaeth newydd ein Hysgol: Yr Athro Siladitya Bhattacharya

Professor Siladitya Bhattacharya
The new Head of School of Medicine, Professor Siladitya Bhattacharya.

Bydd yr Athro Siladitya Bhattacharya yn dechrau yn swydd pennaeth yr ysgol fis Mai. Athro Meddygaeth Cenhedlu Prifysgol Aberdeen oedd ei swydd ddiwethaf.

Ym Mhrifysgol Aberdeen, ysgwyddodd yr Athro Bhattacharya gyfrifoldeb pwysig yn gyfarwyddwr gwyddorau iechyd cymhwysol yno. Ei brif ddiddordeb o ran ymchwil yw epidemioleg cenhedlu a chloriannu triniaeth yn y maes hwnnw, yn arbennig ynghylch anffrwythlondeb. Mae’r Athro Bhattacharya yn llywio ymchwil mewn nifer o arbrofion yn ei faes yn ogystal â bod yn aelod o amryw bwyllgorau gwladol a rhyngwladol dros feddygaeth cenhedlu. Mae ganddo brofiad helaeth o addysgu a llunio rhaglenni ar gyfer cwrícwla israddedigion ac ôl-raddedigion, hefyd.

Ynglŷn â’i swydd newydd, meddai’r Athro Bhattacharya: "Rwy’n edrych ymlaen at ddod i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a helpu’r staff hynod fedrus yno i gynnig addysg ac ymchwil eithriadol a fydd yn effeithio’n fawr ar iechyd a lles pobl yng Nghymru a’r tu hwnt."

"Rwy’n hyderus y bydd yr ysgol yn mynd o nerth i nerth gan gyflawni’r datblygiadau gwyddonol a’r hyfforddiant clinigol angenrheidiol ar gyfer gofal iechyd o’r radd flaenaf."

Parhaodd yr Athro Bhattacharya: "Bydd yn dda gyda fi symud i Gaerdydd a bod yn rhan o awyrgylch cefnogol yn yr ysgol feddygol fel y gall y staff a’r myfyrwyr gyflawni eu llawn dwf."

"Y tu allan i’r gwaith, rwy’n mwynhau darllen a theithio, ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu Cymraeg."

Yn ôl yr Athro Gary Baxter, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: "Rwyf i wrth fy modd bod yr Athro Bhattacharya yn dod i gymryd awenau Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Bydd yn dod â phrofiad helaeth o arwain, addysgu ac ymchwil i’r swydd, ac edrychaf ymlaen at gydweithio ag ef i lunio gweithgareddau’r ysgol."

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy edition 28

Darllenwch nhw i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.