Ewch i’r prif gynnwys

O dan sylw: Prosiect Sepsis

Sepsis
Project Sepsis involves studies of Neonatal sepsis (nSEP), Paediatric sepsis (pSEP), Maternal sepsis (mSEP), and Adult sepsis (aSEP).

Mae sepsis yn haint cymhleth, peryglus iawn sy’n lladd 44,000 o bobl bob blwyddyn yn y deyrnas hon.

Gall ddatblygu o nifer o heintiau bacteriol ac, felly, mae’n hanfodol adnabod yr union bathogen sydd ar waith yn gyflym, yn arbennig mewn babanod lle na fydd yr un arwydd o haint, megis tymheredd uchel, o reidrwydd.

Y ffordd orau o adnabod yr haint ar hyn o bryd yw trwy ganfod bacteria yn y gwaed, ond mae angen digon o waed i allu gwneud hynny.

Yr Athro Peter Ghazal sy’n arwain tîm y prosiect, gan ddod â gwyddoniaeth sylfaenol ac ymchwil glinigol ynghyd er lles y cleifion. Mae’r tîm yn defnyddio dulliau cyfrifiadurol arloesol i ddadansoddi arwyddion sydd yn DNA a metabolaeth y cleifion. Trwy’r arwyddion hynny, gall meddygon weld a oes haint bacteriol yn y gwaed neu beidio, a’r gobaith yw y bydd modd llunio maes o law ffordd ymatebol, cyflym a chywir o brofi diferyn o waed.

Mae ymchwil yr Athro Ghazal wedi dod o hyd i neges DNA ac ynddi 52 o lythrennau ar gyfer heintiau bacteriol, ond nid rhai firol. Eglurodd yr Athro Ghazal:

"Trwy Twitter, cewch chi anfon neges ac ynddi 140 o lythrennau ac, yn yr un modd, gall ein genomau lunio negeseuon neu signalau byrion i gyfathrebu â’r sustemau imiwnedd a metabolaidd a’u galluogi i fynd i’r afael â’r haint."

At hynny, bydd tîm Prosiect Sepsis yn hyrwyddo rhyngweithio ymhlith cleifion, ymchwilwyr a staff clinigol trwy gyfrwng Canolfan y Cleifion Sepsis a’r Ymgysylltu Cyhoeddus sydd wedi’i sefydlu yn Adeilad Syr Geraint Evans ar gyfer rhyngweithio a hyfforddi.

Nod y ganolfan yw ymgysylltu â’r cyhoedd trwy achlysuron estyn braich a chynnwys pobl yn yr ymchwil a’r clinig mewn ymdrech gadarn i achub cleifion rhag sepsis.

Cymuned ymgynghorol leyg

Mae ymgynghori lleyg ar waith ynghylch Prosiect Sepsis, ac mae cyfleoedd i ymuno â charfan yr ymgynghorwyr lleyg yn y frwydr yn erbyn sepsis. Byddai croeso arbennig i’r rhai mae sepsis wedi effeithio arnyn nhw yn uniongyrchol (megis cyn gleifion) neu’n anuniongyrchol (megis perthnasau cyn gleifion) yn ogystal â’r rhai hoffai gymryd rhan yn sgîl ymddiddori yn y pwnc.

I ddysgu rhagor am ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd, cysylltwch â:

Project Sepsis

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 28 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy edition 28

Darllenwch nhw i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.