Ewch i’r prif gynnwys

Sgwrs gyda chynfyfyriwr: Y Dr D Ray Freebury

Dr D Ray Freebury
Dr D Ray Freebury MBBCh (1958), D(Obst)RCOG (1960), FRCPC (1968), DLFAPA (1995)

Dechreuodd Ray ei yrfa feddygol yn hen Ysgol Genedlaethol Meddygaeth Cymru, lle y graddiodd ym 1958, a dilyn trywydd diddorol ac amryfal iawn wedyn.

Ar ôl iddo ymddeol, gofynnodd ei ferch, Megan Freebury Karnis, iddo fod yn ymgynghorydd seiciatrig a chwnsler yng nghlinig ONE Fertility Clinic, lle mae hi’n endocrinolegwr cenhedlu yn ogystal â chyfarwyddwr meddygol.

Mae yn y rôl honno ers bron naw mlynedd bellach ac mae’i brofiad o ddadansoddi seicolegol wedi bod yn amhrisiadwy wrth gynghori merched ifanc am anffrwythlondeb.

Pam y dewisoch chi ddechrau eich gyrfa yng Nghaerdydd?

"Nid rhag ofn hiraethu y dewisais Gaerdydd. Fyddai’r ysbytai yn Llundain ddim yn derbyn tystysgrif bywydeg Cymru gan fynnu imi ohirio fy astudiaethau am flwyddyn i ennill tystysgrif botaneg a sŵoleg Rhydychen. Yn ffodus, gallai Ysgol Genedlaethol Meddygaeth Cymru gynnig fy nerbyn yn syth ac, felly, fe ddes i Gaerdydd."

Beth oedd yn anarferol am ddechrau eich hyfforddiant?

"Fe wnes i rywbeth anarferol ym 1956 trwy briodi yng nghanol fy hyfforddiant meddygol. Collais fy ngrant addysg gan Gyngor Tref Casnewydd oherwydd hynny. Cysylltais â’r Daily Mirror gan obeithio y gallai peth cyhoeddusrwydd beri iddo newid ei benderfyniad. Pennawd y darn, fodd bynnag, oedd ‘Ray and Diane beat ban on romance’ ac aeth yr effaith yn groes i’r disgwyl, yn ôl pob tebyg."

Sut aeth eich gyrfa ar ôl graddio?

"Roedd fy swydd gyntaf yn Ysbyty Glowyr Caerffili ac roeddwn i’n gweithio yno pan anwyd fy merch gyntaf yng nghyfleuster obstetreg newydd sbon Caerdydd, Glossop Terrace."

"Ym maes obstetreg y daeth fy ail swydd, ac arweiniodd hynny at D(Obst)RCOG. Wedi hynny, fe ges i swydd yn uwch feddyg tŷ yn Ysbyty’r Santes Fair, Llongborth, lle roeddwn i’n bwriadu astudio meddygaeth fewnol. Allwn i ddim gwneud hynny, fodd bynnag, yn sgîl fy ngalw ar gyfer gwasanaeth milwrol. Penderfynais dderbyn comisiwn tair blynedd fel y gallai fy wraig feichiog a’m merch fyw gyda fi ble bynnag y byddwn i yn y byd - fe es i uned atgyweirio llongau ar Ynys Melita yn gyntaf."

Ac mae’n ymddangos i’ch teithio barhau yn ystod eich gwasanaeth milwrol, hefyd

"O achos fy niploma ym maes obstetreg, fe ges i fy mhenodi i rôl mewn clinig cynllunio ar gyfer teulu yn Sliema."

"Treuliais i bedwar mis ar fwrdd llong awyrennau HMS Centaur yng Ngwlff Persia hefyd, yn ymateb i fygythiad cyntaf Irac yn erbyn Coweit ym 1961. Erbyn diwedd y tair blynedd, roedd gyda fi nifer o gyfeillion gydol oes ynghyd â bwrsari ddefnyddiais i symud y teulu i Ganada lle dechreuais yn feddyg teulu mewn tref fechan o’r enw Schreiber ar lan ogleddol Lake Superior - roedd mwy o eira yno nag yr oeddwn i wedi’i weld erioed."

Ar ôl dechrau yng Nghaerdydd, parhaodd eich gyrfa yng Nghanada

"Dros y blynyddoedd, ehangodd fy mhrofiad a’m gwaith ym maes dadansoddi seicolegol. Fe fues i’n llywydd i gymdeithasau dadansoddi seicolegol Toronto a Chanada fel ei gilydd yn ogystal â chyfarwyddwr y ddau sefydliad hyfforddi. Yn y ddwy gymdeithas, llywiais bwyllgorau llunio a chyflwyno canllawiau moesegol a modd eu rhoi ar waith. Fi oedd cadeirydd cyntaf pwyllgor moeseg Cymdeithas Dadansoddi Seicolegol Canada."

Ydych chi’n hiraethu am Gaerdydd o gwbl?

"Rwy’n cynnal y cyswllt teimladol â’r famwlad trwy fod yn aelod o Gôr Meibion Cymry Toronto sy’n canu chwarter o’i bethau yn y Gymraeg ac yn rhoi cyngherddau bron bob mis."

Pum gair am Ysgol Meddygaeth Caerdydd: "Profiad i'w gofio drwy gydol eich oes".

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 28 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy edition 28

Darllenwch nhw i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.