Ewch i’r prif gynnwys

Graddau Ymsang

Bydd gradd ymsang yn mynd â chi’n llawer dyfnach i un o feysydd penodol meddygaeth, ac ar ddiwedd y daith bydd gennych chi BSc.

Fideo o Dr Thomas yn trafod manteision gwneud gradd ymsang.

Yn ystod blwyddyn ymsang, byddwch chi’n cwblhau gradd BSc mewn pwnc meddygol cysylltiedig. Gallwch chi wneud hyn ar ôl y drydedd flwyddyn neu’r bedwaredd flwyddyn yn eich astudiaethau MBBCh.

Mae tua 100 o fyfyrwyr yn astudio graddau ymsang bob blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n astudio cyrsiau BSc ym Mhrifysgol Caerdydd neu ym Mhrifysgol Bangor, lle mae gennym gysylltiadau agos.

Y rhesymau dros astudio gradd ymsang

Ymhlith manteision cwblhau gradd ymsang y mae’r canlynol:

  • astudio maes diddordeb yn fanylach na’r hyn a gwmpesir gan radd Meddygaeth
  • gwneud darn gwreiddiol o ymchwil
  • gwella eich sgiliau trosglwyddadwy sy'n gysylltiedig ag ymchwil. Bydd hyn yn fanteisiol ichi
    mewn gyrfaoedd academaidd a chlinigol
  • datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol sylfaenol a rhwydweithiau ymchwil posibl, ar gyfer MD neu PhD mewn maes arbenigol penodol yn y dyfodol

O ystyried bod blwyddyn ymsang bellach yn orfodol mewn rhai ysgolion meddygol, mae BSc yn rhywbeth deniadol i’w ychwanegu at eich CV.

Cyrsiau ymsang yng Nghaerdydd

Ysgol y Biowyddorau

Nod y flwyddyn ymsang yw cynnig cydbwysedd rhwng astudiaethau anatomegol clasurol a’r ddealltwriaeth gyfoes o fioleg celloedd a datblygiad, geneteg a mecanweithiau clefydau.

Cewch y cyfle i dreulio blwyddyn academaidd mewn amgylchedd ymchwil lle bydd eich dysgu’n cyd-fynd yn agos â meysydd ymchwil sy’n wirioneddol ar flaen y gad o ran meddygaeth a datblygiad technolegau meddygol cyfoes, fel peirianneg meinweoedd.

Mae ymchwil fiocemegol yn sail i lawer o ddatblygiadau diweddar a pharhaus ym maes meddygaeth; er enghraifft, datblygu therapïau canser wedi’u targedu, defnyddio therapïau sy’n seiliedig ar RNA a bôn-gelloedd, a’r ddealltwriaeth o bwysigrwydd camblygu proteinau i anhwylderau niwro-ddirywiol fel clefyd Alzheimer a chlefyd CreutzfeldtJakob.

Mae’r radd ymsang mewn Biocemeg yn cynnig y cyfle i chi ymuno â chwrs a arweinir gan ymchwil yn y maes hynod berthnasol hwn sy’n datblygu’n gyflym.

Mae’r modiwlau craidd yn datblygu dealltwriaeth ddwys o ymchwil flaengar ym meysydd genomeg, rheoleiddio genynnol, bioleg synthetig a pheirianneg proteinau, gan gynnwys strwythur 3D a dynameg y genom a defnyddio egwyddorion peirianneg ar gyfer systemau biolegol.

Mae niwrowyddoniaeth yn faes biofeddygaeth sy'n datblygu'n gyflym wrth i ddulliau arbrofol soffistigedig newydd gael eu datblygu'n gyson i fynd i'r afael â chymhlethdod y system nerfol.

Byddwch yn cael y cyfle i dreulio blwyddyn academaidd mewn sefydliad addysgu a arweinir gan ymchwil lle mae niwrowyddoniaeth yn faes cynyddol. Mae'r modiwlau rydych chi'n eu hastudio yn adlewyrchu'r defnydd cynyddol o fioleg foleciwlaidd, geneteg, seicopharmacoleg, niwroffisioleg a gwyddor ymddygiadol i ddeall y system nerfol a'r anhwylderau niwroseiciatrig cysylltiedig.

Byddwch yn astudio ffisioleg uwch a phathoffisioleg gan ddefnyddio gwybodaeth sy'n deillio o ymchwil gyfredol i ddeall sut mae'r systemau cardiofasgwlaidd, arennol, gastroberfeddol, anadlol ac endocrin yn cael eu rheoli o'r lefel foleciwlaidd i swyddogaeth integredig y corff.

Mae gennym fodiwlau dewisol ar gael i'ch galluogi i ddewis ac archwilio pynciau penodol o ddiddordeb (e.e. peirianneg meinweoedd, bioleg gyhyrysgerbydol, canser).

Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect blwyddyn olaf sy'n canolbwyntio ar ffisioleg mewn labordy, neu gallwch wneud rhywfaint o ymchwil addysgol, dadansoddi data neu brosiect cyfathrebu gwyddoniaeth.

Yr Ysgol Meddygaeth - Cyrsiau BSc

Mae'r cwrs BSc Gofal Brys, Cyn Mynd i’r Ysbyty ac Ar Unwaith (ymsang) (EPIC iBSc) yn eich trwytho ym maes gofal acíwt.

Fideo o Dr Huw Williams yn sôn am strwythur y cwrs a sut y gall fod o fudd i chi.

Mae ein cwricwlwm strwythuredig yn eich galluogi i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau clinigol sydd eu hangen i roi diagnosis a thriniaeth yn gyflym mewn achosion brys, sy’n bethau anodd eu gwneud. Mae'r modiwlau'n cynnwys:

  • Achosion Chwaraeon, Achosion Cyn Mynd i'r Ysbyty ac Achosion Brys Eraill
  • Diagnosteg Frys
  • Gwyddor Dadebru
  • Gwyddor Trawma
  • Meddygaeth Bediatrig Frys
  • Prosiect Ymchwil Ymsang
    Mae’r wythnosau addysgu yn y Brifysgol yn cynnwys darlithoedd, tiwtorialau a sesiynau sgiliau clinigol ac efelychu ar gampws Parc y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd.

Fideo o Jack Sheppard yn sôn am rai o uchafbwyntiau ei flwyddyn ymsang yng Nghaerdydd.

Mae myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau clinigol mewn Adrannau Achosion Brys prysur ledled Cymru. Byddant yn magu profiad o achosion cyn mynd i’r ysbyty bob wythnos gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (naill ai mewn ambiwlans neu mewn cerbyd ymateb cyflym). Mae thema pob wythnos ar leoliad clinigol yn ymwneud â phwnc maes llafur, lle bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn clwb cyfnodolion (yn gwerthuso papur pwysig yn feirniadol) a thiwtorial lleoliad gwaith, gan gynnwys sefyll arholiad ffug. Byddwch hefyd yn mynd i ddiwrnodau hyfforddiant ar y cyd gyda hyfforddeion ôl-raddedig ym maes meddygaeth frys.

Mae’r clwb cyfnodolion yn sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau gwerthuso beirniadol sydd eu hangen i gwblhau modiwl y Prosiect Ymchwil Ymsang yn llwyddiannus, tra bydd profiadau ymarferol o wneud ymchwil yn cael eu goruchwylio gan feddyg neu ymchwilydd profiadol ym maes meddygaeth frys.

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa gyffrous ym maes meddygaeth ysbyty frys neu faes meddygaeth ysbyty cyn mynd i’r ysbyty.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth fanwl am y cwrs iBSc EPIC.

Cyfeiriwch at y cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais i ddilyn rhaglen iBSC EPIC. Wrth wneud cais i ddilyn y rhaglen, gofynnir i chi gadarnhau eich bod wedi darllen y wybodaeth ar y dudalen Cwestiynau Cyffredin. Gofynnir i chi gadarnhau hefyd eich bod yn deall y wybodaeth hon ac yn cytuno iddi.

Disgwylir i bob meddyg addysgu. Ar y cwrs hwn, byddwch yn ystyried theori ac ymarfer dysgu ym maes addysg feddygol gyfoes, yn datblygu eich sgiliau addysgu, yn darganfod ac yn defnyddio technolegau addysgol newydd ac yn ymchwilio i faterion allweddol ym maes addysgu clinigol.

Fideo o Julie Browne yn sôn am strwythur y cwrs a sut y gall fod o fudd i chi.

Mae a wnelo Ffarmacoleg ag astudio sut mae cyffuriau a meddyginiaethau’n gweithio ar lefel gellog ac isgellog i gael effaith lesol (a niweidiol, weithiau) ar bobl.

Fideo o Dr Kirsten Pugh yn sôn am strwythur y cwrs a sut y gall fod o fudd i chi.

Bydd y rhai sy’n dilyn y rhaglen BSc (ymsang) hon yn meithrin dealltwriaeth gadarn o effeithiau biolegol a mecanweithiau gweithredu amrywiaeth eang o sylweddau bioactif, yn arbennig y rhai a ddefnyddir i drin clefydau dynol.

Yn rhan o’r rhaglen BSc Meddygaeth y Boblogaeth, byddwch yn astudio sut mae epidemioleg yn cael ei defnyddio i ddelio â’r problemau sy’n dod i’r amlwg wrth roi gofal neu driniaethau i unigolion.

Fideo o Dr Zoe Roberts yn sôn am strwythur y cwrs a sut y gall fod o fudd i chi.

Mae a wnelo epidemioleg ag astudio dosbarthiad a phenderfynyddion digwyddiadau neu gyflyrau sy’n gysylltiedig ag iechyd (gan gynnwys clefydau) er mwyn rheoli clefydau a phroblemau iechyd eraill.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth eang a chadarn o ddulliau ymchwil y gellir eu defnyddio i wella iechyd a gofal iechyd, gan gynnwys nodi sut y gellir cymhwyso arferion iechyd a chanfyddiadau ymchwil i feysydd pwnc penodol (e.e. heintiau, cyflyrau hirdymor, iechyd y cyhoedd, gwella gofal clinigol, anghydraddoldebau ac iechyd gwledig).

Darllenwch 'Reflections And Awards Of A Supervised Intercalated Student' - blog agored a gonest gan un o'n myfyrwyr sy'n rhyngateb.

Fideo o’r fyfyrwraig feddygol yn ei blwyddyn olaf, Amy Clark, yn rhannu ei phrofiadau o'r rhaglen BSc.

Prif amcan y cwrs yw hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o seicoleg ym maes meddygaeth ar lefelau cysyniadol ac ymarferol fel ei gilydd.

Fideo o Dr Xavier Caseras yn sôn am strwythur y cwrs a sut y gall fod o fudd i chi.

Byddwch yn cael eich annog i werthuso theori a methodoleg amrywiaeth o feysydd pwnc seicolegol yn feirniadol, gan gynnwys gwneud y cysylltiad rhwng prosesau seicolegol sylfaenol a symptomau a chyflyrau seiciatrig a niwrolegol.

Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gyfuno cynnwys y modiwlau craidd â modiwlau'r Ysgol Seicoleg a fydd ar gael i’w gwneud gan fyfyrwyr. Byddwch yn cael profiad ymarferol o wneud ymchwil drwy gynnal prosiect a fydd yn cael ei oruchwylio gan wyddonydd profiadol.

Fideo o Christopher Bailey yn sôn am rai o uchafbwyntiau ei flwyddyn ymsang yng Nghaerdydd.

Yr Ysgol Meddygaeth – Cyrsiau MSc

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio gan arbenigwyr rhyngwladol sy’n gweithio ym meysydd haint, imiwnedd a llid. Bydd y cwrs amser llawn hwn yn eich cyflwyno cymaint â phosibl i’r arbenigedd ymchwil sydd i’w gael yn yr Is-adran Haint ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau’r Brifysgol.

Fideo yn edrych ar yr MSc Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol.

Ar ôl cwblhau'r cwrs MSc hwn, byddwch wedi datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o faterion cyfoes a datblygiadau mewn pynciau clinigol a phynciau gwyddoniaeth sylfaenol sy'n cyd-fynd â meysydd haint, imiwnedd a llid.

Cyrsiau ymsang ym Mangor

Darperir y cyrsiau canlynol gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiad.

Addysgir y BSc mewn Niwroseicoleg gan niwrolegwyr, niwroseicolegwyr clinigol a niwrowyddonwyr o Ganolfan Wolfson ar gyfer Niwrowyddoniaeth Glinigol a Gwybyddol sydd wedi ennill clod rhyngwladol.

Mae'n rhoi'r cyfle i chi astudio'r ymennydd dynol yn fanwl mewn iechyd a chlefydau ac ymgymryd â phrosiect ymchwil yn un o'u labordai niwrowyddoniaeth ddynol.

Dysgwch fwy am astudio Niwroseicoleg ym Mhrifysgol Bangor.

Gan ddilyn dull astudio seiliedig ar ymchwil, mae agweddau allweddol y radd gwyddor chwaraeon hon yn cynnwys astudio sut y gellir gwella perfformiad corfforol a meddyliol i helpu unigolion i gyflawni eu potensial personol.

Fideo yn edrych ar y cwrs Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor.

Rhagor o wybodaeth am astudio Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor.

Graddau ymsang sefydliadau eraill yn y DU

Gall myfyrwyr rhagorol astudio graddau ymsang mewn sefydliadau eraill yn y DU ar gyfer cyrsiau nad ydyn nhw ar gael yma. Rydyn ni hefyd yn derbyn ceisiadau am raddau ymsang gan fyfyrwyr meddygol sy'n astudio mewn ysgolion meddygol eraill ar hyn o bryd.

Fideo o'r myfyriwr presennol Imogen John yn siarad am ei phrofiad o wneud gradd ymsang (intercalated) mewn prifysgol arall.

Cysylltu â ni

I gael gwybod mwy am radd ymsang, cysylltwch â:

Medicine Intercalation