Ewch i’r prif gynnwys

Ffarmacoleg Feddygol

Medical Pharmacology BSc

Gan fod meddyginiaethau mor bwysig ym myd gofal iechyd, nod ein rhaglen BSc yw hybu a datblygu’ch chwilfrydedd naturiol ynglŷn â’u ffordd o weithio.

Fel myfyriwr, byddwch chi’n cychwyn ar ymchwiliad manwl ac o safon i Ffarmacoleg Feddygol fodern a chewch eich hyfforddiant arbenigol mewn labordai ymchwil o fri rhyngwladol.

Drwy gydol y cwrs, rhoddir bwyslais ar ddysgu sgiliau trosglwyddadwy i chi, fel dadansoddi data, trefnu a datrys problemau, i wneud eich gradd chi’n un hynod atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Enw’r radd Côd UCAS
Ffarmacoleg Feddygol (BSc) B210

Bob blwyddyn, mae hyd at ddeg lle ar gael ar y rhaglen Meddygaeth bedair blynedd i raddedigion (UCAS: A101) sy’n galluogi graddedigion o’r rhaglen BSc hon i hyfforddi i fod yn feddygon.

Mae astudio ffarmacoleg yng Nghaerdydd wedi bod yn brofiad gwych i mi. Rwyf wedi gweld bod y gefnogaeth addysgu a bugeiliol yn rhagorol ac mae'r cwrs wedi rhoi'r holl sgiliau angenrheidiol i mi sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn ymchwil neu mewn maes meddygol. Mae'r cwrs yn cynnwys cymysgedd o ddosbarthiadau ymarferol, darlithoedd a seminarau gwaith grŵp sy'n helpu i adeiladu amgylchedd dysgu cydlynol iawn. Rwyf wedi mwynhau fy mhrofiad ym Mhrifysgol Caerdydd yn fawr iawn ac yn bendant yn argymell y cwrs.

Zoe Boreham, graddedig mewn Ffarmacoleg Feddygol

Gallwch weld manylion llawn ein dyddiadau allweddol a chanllawiau ar sut i wneud cais yn ein hadran astudio. Gallwch hefyd ddarllen ein polisïau derbyn myfyrwyr am ragor o wybdoaeth am ein proses ymgeisio.

Mae yna hefyd cyngor ac arweiniad defnyddiol ar eich datganiad personol a beth i wneud unwaith i chi dderbyn eich canlyniadau.