Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Cymrodorion Academaidd

Academic Fellows Scheme
The Academic Fellows Scheme provides support to some of the most deprived areas in South Wales.

Mae'r Cynllun Cymrodorion Academaidd yn fenter sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n darparu amser a chyllid wedi'i warchod ar gyfer meddygon teulu brwdfrydig, i gyfuno addysgu, ymchwil ac astudiaeth ôl-raddedig gyda gwaith clinigol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ne ddwyrain Cymru.

Bod yn Gymrawd Academaidd

Byddai'r cynllun hwn yn addas ar gyfer unrhyw feddyg teulu sy'n gymwys i weithio yng Nghymru, sydd am ehangu ar ei ddatblygiad proffesiynol, cynnal cydbwysedd bywyd-gwaith, a darparu cefnogaeth glinigol i feddygfeydd yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ne ddwyrain Cymru.

Mae'r cynllun yn cynnig cytundeb tymor penodol am ddwy flynedd. Bydd Cymrodorion Academaidd yn treulio dau ddiwrnod yr wythnos yn gwneud gwaith clinigol fel meddyg teulu, a thri diwrnod yr wythnos yn gwneud gwaith addysgu, ymchwilio ac astudio ôl-raddedig.

Y bwriad yw i bob Cymrawd Academaidd fod wedi:

  • darparu cefnogaeth i feddygfeydd, i wella a datblygu gwasanaethau i gleifion
  • integreiddio â chydweithwyr yn yr Is-adran Meddygaeth Boblogaeth, y Ganolfan Treialon Ymchwil a'r Ganolfan Addysg Feddygol, a chyfrannu at weithgareddau yn y sefydliadau hyn
  • cwblhau prosiect ymchwil sydd wedi arwain at gyhoeddiad a/neu gyflwyniad
  • datblygu portffolio o brofiad addysgu drwy gyfrannu at ddarpariaeth a datblygiad addysg feddygol i israddedigion, ac ennill cymhwyster addysgu perthnasol os am barhau i gyfrannu at addysg feddygol
  • ennill cymhwyster ôl-raddedig.

Mae'r nodau uchod yn hyblyg, oherwydd rydym yn awyddus i gefnogi Cymrodorion sy'n dymuno rhoi pwyslais ar un maes penodol o ddiddordeb neu ddatblygiad proffesiynol.

Gwybodaeth i ymgeiswyr y Cynllun Cymrodorion Academaidd

Y dyfodol, o safbwynt proffesiynol

Mae'r rhan fwyaf o Gymrodorion Academaidd yn y gorffennol wedi symud ymlaen at ymarfer clinigol mewn ardaloedd difreintiedig ac wedi cadw mewn cysylltiad ag adrannau academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Cymrodorion Academaidd wedi ychwanegu gwerth at y feddygfa maent yn ymuno â hi, oherwydd bydd y rhan fwyaf yn addysgu myfyrwyr meddygaeth neu wedi dod yn hyfforddwyr meddygon teulu. Mae Cymrodorion Academaidd sydd â dyheadau academaidd hirdymor wedi cael eu cefnogi i wneud cais am Gymrodoriaethau ymchwil arobryn (gan gynnwys gyda'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd/NIHR, a'r Cyngor Ymchwil Meddygol/MRC) ac wedi llwyddo i ennill PhD.

Mae'r rheini sydd â diddordeb mewn addysg feddygol wedi cael eu cefnogi i gael rolau addysgu rhan amser. Mae rhai Cymrodorion Academaidd wedi symud i rolau ym maes Iechyd Cyhoeddus a rheolaeth feddygol.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar eich datblygiad proffesiynol a'ch dyheadau gyrfa yn y dyfodol, ac yn cynllunio cefnogaeth i'ch caniatáu i gyrraedd y nod.

Gweithio mewn meddygfa

Bydd y Cymrawd Academaidd yn dod yn rhan o dîm y feddygfa am chwe mis. Bydd yn cymryd llwyth gwaith arferol meddyg teulu yn y feddygfa. Mae hyn fel arfer yn cynnwys dwy gymhorthfa feddygol, galwadau tŷ a'r dyletswyddau gweinyddol arferol.

Bydd meddygon teulu y feddygfa yn defnyddio'r cymorth clinigol i ymgymryd â phrosiectau a fydd yn gwella gofal cleifion. Bydd meddygfeydd yn gweithio i Gynllun Datblygu Meddygfa, y cytunir arno gyda Chyfarwyddwr y Cynllun. Bydd y cynllun datblygu yn nodi'r gweithgaredd gwella, yr amserlen a ragwelir, y bobl fydd yn cymryd rhan a'r canlyniadau mesuradwy. Bydd cynnydd yn cael ei adolygu ar ôl chwe wythnos, ar ôl tri mis ac yna ar ôl i'r cynllun ddod i ben.

Mae'n bwysig pwysleisio bod y Cymrawd Academaidd yn uwchrifol, felly ni ddylid ei gynnwys ar rota absenoldeb gwyliau'r feddygfa, er enghraifft.

Ymchwil

Mae'r Is-adran Meddygaeth Boblogaeth wedi ymrwymo i gyflawni ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae eu gwaith ymchwil yn nodi ffactorau risg cymdeithasol, economaidd a biolegol ar gyfer salwch ac afiechyd, ac yn datblygu ac yn profi ymyriadau i wella canlyniadau iechyd.

Mae gwaith ymchwil yr Is-adran yn canolbwyntio ar ganser, plentyndod, heintiau a chyflyrau hirdymor. Bydd Cymrodorion Academaidd yn cael eu cefnogi yn eu dewis o weithgaredd ymchwil addas. Bydd uwch-ymchwilydd yn goruchwylio pob Cymrawd Academaidd, a bydd yr uwch-ymchwilydd hwn yn nodi testunau ymchwil priodol a hyfforddiant ar gyfer y Cymrawd, ac yn darparu cefnogaeth agos barhaus.

Addysgu

Caiff yr holl addysgu ei gynnal yn yr Ysgol Meddygaeth. Bydd y Cymrodorion Academaidd yn addysgu sgiliau clinigol a chyfathrebu yn rheolaidd i grwpiau bach o fyfyrwyr meddygaeth fel rhan o'u cwricwlwm craidd. Bydd yr addysgu'n cael ei gynnal yn Adeilad Cochrane.

Rôl meddygfeydd yn y cynllun

Rhaid i feddygfeydd:

  • fod â mwyafrif eu cleifion yn yr 20% uchaf o ran amddifadedd,fel sy'n cael ei fesur gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD)
  • fod â lefel sylfaenol, ddiogel o drefniadaeth, fel sy'n cael ei phennu gan holiadur cymhwyso a gan Gyfarwyddwr y Cynllun ar ymweliad â'r feddygfa
  • fod o fewn pellter teithio rhesymol i'r ganolfan academaidd, i alluogi'r Cymrodorion Academaidd i deithio yno.

Hyd

Bydd Cymrawd Academaidd yn cael ei neilltuo i feddygfa am ddau ddiwrnod yr wythnos am chwe mis.

Sut i wneud cais

I ddechrau, bydd rhaid i feddygfeydd lenwi holiadur cymhwyso. Os yn gymwys, bydd meddygfeydd yn cael eu rhoi ar restr aros. Cyn i'r Cymrawd Academaidd gael ei neilltuo, bydd gofyn i'r feddygfa gwblhau Cynllun Datblygu Personol, a bydd Cyfarwyddwr y Cynllun yn ymweld â'r feddygfa.

Yn ystod yr ymweliad, bydd Cyfarwyddwr y Cynllun yn asesu a oes amgylchedd diogel a chefnogol ar gyfer y Cymrawd Academaidd, ac a fydd amser y Cymrawd Academaidd yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol. Bydd cytundeb yn cael ei lofnodi os bydd y feddygfa yn cael ei chymeradwyo.

Academic Fellows Scheme Eligibility Questionnaire

Complete and return to apply

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cymrodorion Academaidd, cysylltwch â ni:

Academic Fellows Scheme

Cynllun Cymrodorion Academaidd
Is-adran Meddygaeth Boblogaeth
Prifysgol Caerdydd
3ydd Llawr, Neuadd Meirionnydd
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd  
CF14 4YS

Cwrdd â’r tîm

Dr Harry Ahmed

Dr Harry Ahmed

Clinical Research Fellow

Email
ahmedh2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0194
Kara Dominguez

Kara Dominguez

Administrator, Academic Fellows Scheme

Email
dominguezk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0194