Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd

Science in Health

Nod y rhaglen hon yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o dalent.

Mae'n cynnwys pedwar prif faes:

  • darlithoedd cyhoeddus;
  • Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd - yn Fyw!
  • Profiad gwaith yn y labordy
  • Life Sciences Challenge (Her y Gwyddorau Bywyd)

Darlithoedd cyhoeddus

Mae’r Gyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n denu cynulleidfa amrywiol gan gynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw ceisio trin a thrafod meysydd sy’n peri pryder mewn gofal iechyd a chyhoeddi ymchwil newydd am faterion iechyd i'r cyhoedd.

Cynhelir y darlithoedd rhwng mis Hydref a mis Ebrill ar ffurf gweminarau Zoom ar-lein rhad ac am ddim. Mae croeso i bawb – gan gynnwys disgyblion ysgol uwchradd sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal iechyd.

Rydym wedi penderfynu cyflwyno ein Cyfres Darlithoedd Cyhoeddus fel digwyddiadau ar-lein rhithwir. Defnyddiwch y dolenni isod i gofrestru ar gyfer gweminarau Zoom a byddwch yn cael manylion am sut i ymuno â ni.

Cyfres o Darlithoedd Cyhoeddus 2023/2024

Dyddiad ac amserTeitlSiaradwr
Dydd Iau 12 Hydref 
19:00

Cyffuriau colli pwysau newydd ar gyfer gordewdra

Gweld recordiad

Yr Athro Colin Dayan, Prifysgol Caerdydd
Dydd Iau 16 Tachwedd 19:00

Gadewch i ni siarad am gig diwylliedig: myfyrdodau ar wleidyddiaeth gymdeithasol tyfu cig mewn cewyll

Gweld recordiad

Dr Neil Stephens
Prifysgol Birmingham (ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru) 
Dydd Iau 7 Rhagfyr 19:00

Pan nad yw'r cyffuriau'n gweithio – sut y gellir defnyddio therapïau datblygedig i drin clefyd niwroddirywiol

Gweld recordiad

Dr Cheney Drew, Prifysgol Caerdydd
Dydd Iau 18 Ionawr
19:00

Y Corff Cyfrinachol: Sut mae Gwyddoniaeth Newydd y Corff Dynol yn Newid y Ffordd Rydym yn Fyw

Gweld recordiad

Yr Athro Daniel Davis, Imperial College, Llundain

Dydd Iau 29 Chwefror 19:00

Dyfodol maeth personol

Gweld recordiad

Yr Athro Tim Spector, Coleg y Brenin, Llundain
Dydd Iau 21 Mawrth
19:00

Darganfod cyffuriau - y daith o'r labordy i erchwyn y gwely

Gweld recordiad

Dr Natalie Joseph Williams, Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Prifysgol Caerdydd

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd - yn Fyw!

Mae ‘Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd – yn Fyw!’ wedi bod yn croesawu disgyblion i Ysgol Meddygaeth Caerdydd ers dros 25 mlynedd. Cynhelir y digwyddiad yn ysbyty addysgu mwyaf Cymru yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Mae ar gyfer myfyrwyr ym Mlwyddyn 12 sy’n astudio gwyddoniaeth a mathemateg Safon Uwch ac mae’n rhoi cyfle iddynt ddysgu rhagor am y darganfyddiadau gwyddonol diweddaraf a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n digwydd ym maes gofal iechyd.

Dyddiadau 2024

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw 2024 yn cael ei gynnal ar 13 Mawrth 2024.

Cofrestrwch nawr

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw: Pen-blwydd yn 25 oed

Fideo o Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd - YN FYW 2019.

Profiad gwaith yn y labordy

Rhaglen o gynlluniau yw hon i ysbrydoli myfyrwyr blwyddyn 12 sydd â diddordeb mewn gwneud gradd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth neu feddygaeth. Mae’r rhaglen wedi’i chydlynu ac yn parhau i esblygu.

Work Experience
Some of our work experience students getting hands on in the lab environment.

Bydd y myfyrwyr yn cael cyflwyniad cyffredinol i'r wythnos, gan gynnwys amlinelliad o natur y gwaith a wneir yn y labordai ymchwil.

Yn ystod gweddill yr wythnos, bydd myfyrwyr yn cael ystod o brofiadau yn gweithio mewn timau gyda nifer o ymchwilwyr gwahanol a'u grwpiau ymchwil.

Rhoddir cyfleoedd i'r myfyrwyr brofi technolegau arloesol, fel bioleg foleciwlaidd, cytometreg llif, dilyniannau DNA, micro-bigiad wy, firoleg, sbectromedreg màs, grisialograffaeth pelydr-x, ffarmacoleg ac imiwnoleg celloedd, gyda grwpiau ymchwil ar draws yr Ysgol.

Yn hollbwysig, caiff myfyrwyr y cyfle i gwrdd â myfyrwyr PhD a chymrodorion ôl-ddoethurol, a bydd llawer ohonynt ar ddechrau eu gyrfaoedd. Ar y prynhawn olaf, bydd y myfyrwyr yn dod at ei gilydd i ddisgrifio'r hyn maent wedi'i ddysgu yn ystod yr wythnos, a rhoddir gwybodaeth hefyd am broses ymgeisio UCAS.

Ffurflen gais

Gwyddoniaeth Mewn Iechyd - ffurflen gais profiad gwaith

Darllenwch y ffurflen hon yn ofalus a llenwch POB adran.

30 Ebrill 2024 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn 2024.

Life Sciences Challenge (Her y Gwyddorau Bywyd)

Cystadleuaeth rhwng ysgolion ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 sy’n cynnwys cwis. Fe’i dylunnir a’i chyflwyno gan fyfyrwyr doethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd (Ymchwilwyr Ôl-Ddoethurol a Chymrodorion Iau).

Life Sciences Challenge
Pupils taking part in the Life Sciences Challenge quiz.

Mae'r rhain yn unigolion sy’n frwdfrydig ynghylch gwyddoniaeth, ac sydd wedi dewis ymrwymo eu bywydau i ymchwil wyddonol. Maent am rannu'r brwdfrydedd hwn ynghylch ceisio deall y byd naturiol â disgyblion yng Nghymru.

Drwy roi cyfle i ddisgyblion gwrdd â gwyddonwyr ifanc sy'n gweithio'n lleol, rydym yn gobeithio eu hysbrydoli i ystyried y posibilrwydd o ddilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth.

Bydd rhai o'r cwestiynau'n dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol, ond efallai y bydd rhai eraill yn gofyn am wybodaeth a geir drwy ddarllen/ymchwilio ymhellach.

Yn bwysicach byth, bydd rhai cwestiynau'n profi gallu disgyblion i ddadansoddi data a chymhwyso rhesymeg a gwybodaeth i ddelio â chysyniadau anghyfarwydd. Bydd y cwestiynau'n ymwneud yn bennaf â Bioleg a Chemeg, ond gallant gynnwys agweddau ar Ffiseg a Daeareg pan fo hyn yn ymwneud â deall y byd naturiol.

Sut i gystadlu

I gystadlu fel tîm (neu sawl tîm) yn y rownd ar-lein rhagarweiniol, ebostiwch medicengagement@caerdydd.ac.uk. Diwedd mis Ionawr 2023 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r gweithgareddau hyn cysylltwch â:

Ymgysylltu Meddygaeth