Ewch i’r prif gynnwys

Gweledigaeth ac uchelgais

Ein gweledigaeth yw rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn. Bydd ein cydweithio a’n harloesi bob amser yn canolbwyntio ar anghenion cleifion.

Caiff ymchwil ei gyrru gan greadigrwydd a chwilfrydedd, gyda’r awydd i fodloni anghenion clinigol a gofal iechyd.

Bydd ein rhaglenni addysg yn ysbrydoli ein myfyrwyr a’n staff.

Ein huchelgais

Ein huchelgais cyffredinol yw bod yn neg uchaf ysgolion meddygaeth y DU. Wrth gyflawni hyn byddwn:

  • ar flaen y gâd mewn ymchwil feddygol o’r radd flaenaf
  • yn rhoi profiad addysgol sy’n rhoi boddhad i’n myfyrwyr
  • yn creu clinigwyr ac ymchwilwyr rhagorol at y dyfodol
  • yn gwella iechyd a chyfoeth pobl Caerdydd, Cymru a thu hwnt
  • yn cynnal amgylchedd busnes proffesiynol gyda rheolaethau ariannol cryf a thwf a datblygiad a gynllunnir
  • yn sicrhau bod ein staff yn cael eu cynorthwyo a’u hannog i ddatblygu gyrfa i gyflawni eu potensial.