Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydyn ni’n cynnal y safonau uchaf o ymchwil, addysg a hyfforddi.

Rydyn ni’n bodoli i greu a rhannu gwybodaeth ac i addysgu a hyfforddi unigolion i ddod yn glinigwyr, gwyddonwyr, athrawon ac arloeswyr rhagorol. Ein hamcan cyffredinol yw cyfoethogi iechyd pobl Cymru a’r byd ehangach.

Mae ein hymchwil a'n harloesi clinigol blaenllaw yn ysbrydoli ein haddysgu, yn cyfrannu at bolisi ac ymarfer cenedlaethol ac yn galluogi trosi ymchwil er budd y claf a’r cyhoedd drwy Gaerdydd, Cymru a thu hwnt.

Ein myfyrwyr

Mae cyfradd boddhad ein myfyrwyr yn uwch nag erioed, yn 97%, yn ôl Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2016. Mae hyn yn ein rhoi yn gydradd 3ydd yn y wlad.

Dywed ein myfyrwyr meddygol ein bod yn unigryw oherwydd ein ‘gwir ffocws ar y claf’, y ‘cyfle i weithio gydag athrawon ac ymchwilwyr sy’n arbenigwyr byd-eang’ a gallu datblygu ‘dealltwriaeth ragorol o fywyd meddyg’.