Ewch i’r prif gynnwys

School of Welsh/Welsh for Adults - 19/02/2019

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

“Mae rhaglen Prifysgol Caerdydd, Trawsffurfio Caerdydd, yn cynnwys nifer o syniadau ar gyfer newid.

“Un o'r rhain yw ystyried a ddylid cyfuno’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg i greu Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol newydd.

“Ein bwriad, os bydd y syniad hwn yn cael ei fabwysiadu, yw gwarchod hunaniaeth benodol Ysgol y Gymraeg a’i galluogi i elwa ar fod yn rhan o grŵp ehangach o ddisgyblaethau sy'n rhannu nifer sylweddol o fuddiannau. Gobeithiwn wella ymchwil ac addysgu drwy gynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol.

“At hynny, os bydd y syniad hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach, byddwn yn cadw hunaniaeth Adran y Gymraeg yn yr Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol. Bydd hyn yn gwarchod ei harwahanrwydd ac yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy amlwg fel rhan o arbenigedd Caerdydd ym meysydd ieithoedd Ewropeaidd a byd-eang a diwylliannau llenyddol.

“O ran Cymraeg i Oedolion, byddwn yn ystyried ai ni yw’r sefydliad priodol i gynnig y ddarpariaeth hon, ac yn gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr bod cyrsiau yn parhau. Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno tendr i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i barhau â'n rôl fel darparwr o fis Gorffennaf 2019 ymlaen.

“Mae’n bwysig pwysleisio nad ydym wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto, a byddwn yn ymgynghori’n ofalus â staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill wrth i ni fynd ymlaen.

“Mae ein hymrwymiad i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio yn Gymraeg ac i gyflawni'r hyn a amlinellir yn Y Ffordd Ymlaen 2018-2023 yr un mor gryf, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ddatblygiad y Gymraeg ac yn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a moesol.

“Yn ddiweddar iawn mae'r Brifysgol, am y tro cyntaf, wedi penodi Deon y Gymraeg, Huw Williams, sy'n gweithio gyda'r Rhag Is-Ganghellor, yr Athro Damian Walford-Davies, i ddatblygu strategaeth arloesol a blaenllaw ar gyfer y Gymraeg a fydd yn trawsnewid profiad myfyrwyr – a staff – ym Mhrifysgol Caerdydd."

--------------------

“Cardiff University’s Transforming Cardiff programme contains a number of ideas for change.

“One of these is to explore the desirability of bringing together the current Schools of English, Communication and Philosophy; Modern Languages; and Welsh as a new School of Literatures, Languages and Creative Practice.

“Our intention, should this idea progress, is to preserve the distinct identity of the School of Welsh while allowing it to benefit from being part of a larger grouping of disciplines with which it shares significant interests.  We hope to enhance research and teaching through more opportunities for interdisciplinary collaboration.

“Further, should the idea progress, it’s proposed that we will retain the identity of Adran y Gymraeg within the School of Literatures, Languages and Creative Practice, preserving its distinctiveness while giving it even greater visibility as part of Cardiff’s expertise in European and global language work and literary cultures.

“As for Welsh for Adults we plan to explore whether we are the right organisation to deliver this provision, working with partners to ensure that courses continue. We have recently submitted a tender to the National Centre for Learning Welsh to continue our role as provider from July 2019.

“It’s important to stress that no decisions have been taken and we will consult carefully with staff, students and wider stakeholders as we progress.

“We remain fully committed to increasing the number of students undertaking their studies in Welsh and remain dedicated to the commitment set out in The Way Forward 2018-2023 to ensure we make a positive contribution to the development of the Welsh language and fulfil our legal and moral obligations.

“We have very recently appointed our first University Dean for the Welsh Language,  Huw Williams who is working with the Pro Vice Chancellor, Professor Damian Walford-Davies to develop an innovative and flagship Welsh language strategy that will transform the experience of students -- and staff – at Cardiff University.”