Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres o Ddarlithoedd Rhyngddisgyblaethol

Audience sitting in lecture theatre

Cyfres o ddarlithoedd gan ein staff sy’n trafod eu hymchwil gyfredol mewn cyd-destun mathemategol eang.

I gael y rhaglen ddiweddaraf, gweler eincalendr o ddigwyddiadau

Darlithoedd y gorffennol

Yn y ddarlith hon i gynulleidfa gyffredinol, byddwn yn cyfuno offer o theori dadansoddi (ac yn arbennig dadansoddi sbectrol) a thebygolrwydd i ymchwilio i briodweddau dadfeilio amser systemau ffisegol amrywiol (megis lledaeniad gwres y tu mewn i gyfaint). Mae'n hysbys bod bwlch sbectrol yn cyfateb i anghydraddoldeb Poincaré fel y'i gelwir a’i fod yn dadfeilio’n esbonyddol. Ar ôl egluro'r syniadau hyn, byddwn yn gweld sut y gellir ymestyn rhai o'r canlyniadau hyn i achosion lle nad oes yr un bwlch sbectrol. Dyma waith ar y cyd ag Amit Einav (Graz).

Yn achos deunyddiau elastig naturiol a diwydiannol, mae ansicrwydd o ran yr ymatebion mecanyddol yn deillio o'r anhomogenedd micro-strwythurol cynhenid, yr amrywioldeb cynhenid ​rhwng ​​​samplau yn ogystal â’r ychydig o ddata arsylwi a gesglir o fesuriadau anuniongyrchol a lygrwyd gan sŵn. Yn achos y deunyddiau hyn, hwyrach y bydd dulliau penderfyniaethol sy'n seiliedig ar werthoedd data cyfartalog yn tanamcangyfrif neu’n goramcangyfrif eu priodoleddau cryn dipyn, ac mae angen cynrychioliadau stocastig sydd hefyd yn esbonio data a wasgerir.

Yn y ddarlith hon, byddaf yn cyflwyno strategaeth benodol i greu modelau hyperelastig stocastig a ddisgrifir gan swyddogaeth straen-ynni pan fydd y paramedrau'n newidynnau ar hap a nodweddir gan swyddogaethau dwysedd tebygolrwydd. Mae'r modelau hyn yn gallu lluosogi ansicrwydd o ddata’r mewnbwn hyd symiau allbwn o ddiddordeb. Yn benodol, yn achos corff hyperelastig stocastig sydd â geometreg syml, byddaf yn dangos yn ddadansoddol, yn wahanol i’r broblem elastig benderfyniaethol pan fydd un gwerth critigol yn gwahanu’n llym yr achosion pan fydd ansefydlogrwydd yn gallu digwydd neu beidio â digwydd yn achos y broblem stocastig, ceir cyfwng tebygoliaethol pan fydd y cyflyrau sefydlog ac ansefydlog bob amser yn cystadlu â’i gilydd yn yr ystyr bod gan y ddau gyfle mesuradwy i gael eu canfod. Gellir trin problemau mwy cymhleth ond hydrin mewn ffordd debyg.

Rhennir y ddarlith hon yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf, byddaf yn rhoi trosolwg byr o rywfaint o'm hymchwil ar sut y gellir defnyddio modelau damcaniaethol o graffiau i ddatrys (neu o leiaf eu datrys yn fras) rhai problemau yn y byd go iawn o ran ymchwil weithredol.

Astudiaeth achos fanylach ar broblem uchafswm y fertigau hapus, sy’n deillio o waith diweddar a wnaed gyda chydweithwyr yn Awstralia [1] fydd yr ail hanner. Dyma fath newydd o broblem sy'n ymwneud â phennu lliwio fertigau ar graff fel y bydd nifer y fertigau a neilltuir i'r un lliw â lliw pob un o'u cymdogion yn cyrraedd uchafbwynt. Mae'r broblem hon yn un ddibwys os nad yw’r un fertigau wedi'u lliwio ymlaen llaw, er ei bod yn NP-anodd ar y cyfan.

[1] Lewis, R., D. Thiruvady a K. Morgan (2019) 'Finding Happiness: An Analysis of the Maximum Happy Vertices Problem'. Computers and Operations Research, cyf. 103, tt. 265-276.

Matrics sgwâr yw matrics eiledol ei arwydd (ASM) os mai -1, 0 neu 1 yw pob cofnod, ac ar hyd pob rhes a cholofn mae'r cofnodion heb fod yn sero yn newid yr arwydd bob yn ail, gan ddechrau ac yn gorffen ag 1. Bydd y ddarlith hon yn rhoi cyflwyniad elfennol i gyfuneg matricsau ASM, a bydd yn cynnwys amlinelliad o brawf diweddar o ddyfaliad yn achos nifer yr ASM sy’n gymesur yn groeslinol ac yn wrthgroeslinol ac sy’n odrifau.

Byddaf yn rhoi trosolwg a chyflwyniad i gymesuredd cydffurfiol. Mae strwythurau sy'n dangos cymesuredd cydffurfiol yn gaeth mewn perthynas â newidiadau mewn cyfesurynnau sy'n cadw onglau, ond nid o reidrwydd yr hyd. Mewn dau ddimensiwn mae algebra trawsnewidiadau cydffurfiol lleol yn ddimensiwn diddiwedd ac felly'n arwain at strwythurau mathemategol cyfoethog sydd â goblygiadau hynod ddiddorol i ffiseg, megis theorïau maes cwantwm y gellir eu datrys yn fanwl gywir.

Dyluniad syml iawn yw’r treial un garfan (single-arm trial): mae pawb yn cael triniaeth (ym maes oncoleg yn bennaf) ac yn aros i weld a yw’n gweithio, yn nhermau ymateb deuol. Mae’n cymryd yn ganiataol na fydd y rheini nad ydynt yn cael eu trin yn gwella neu â siawns fach (p0) o wella gyda’r gobaith y bydd y driniaeth yn gwella’r ymateb i’r siawns p1. Un gwelliant i’r dyluniad hwn yw fersiwn ymaddasol lle cynhelir dadansoddiad dros dro ar ôl arsylwi ar ganlyniadau’r cyfranogwyr n1 cyntaf. Nod y dadansoddiad dros dro yw dod â’r treial i ben mor gynnar â phosibl gan nad yw’r driniaeth yn gweithio.

Mae’r fersiwn ymaddasol o ddyluniad y treial hwn yn aml yn cael ei galw’n ‘ddyluniad dau gam Simon’ ac efallai mai hwn yw’r dyluniad ymaddasol a ddefnyddir fwyaf aml yn ymarferol. Fodd bynnag, mae canlyniadau adolygiad yn dangos sut y gellir camddefnyddio dyluniad oherwydd safon wael yr adrodd a diffyg cydymffurfio â dyluniad.  Byddaf yn disgrifio’r ffyrdd gwahanol o wella’r dyluniad hwn, megis gwneud llawer o fesurau dros dro, bod yn Bayesaidd, ychwanegu biofarcwyr a chymharu’r dull hwn â dyluniadau hap. Mae’n bosibl, yn y pen draw, y byddaf yn dechrau hoffi’r dyluniad hwn.

Mae’r ddarlith yn trafod sawl mater sy’n perthyn i bynciau gwahanol. Yn gyntaf, byddaf yn sôn am ddilyniannau sydd wedi eu dosbarthu’n unffurf a nodweddion gwahanol unffurfiaeth. Yn ail, byddaf yn dadlau, yn wahanol i’r gred gyffredin, nad yw dilyniannau â nodweddion da o ran llenwi gofodau’n debyg i ddilyniannau a ddosberthir yn unffurf, yn enwedig os yw dimensiwn y gofod yn fawr. Byddaf yn treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn trafod gorchuddio ciwb dimensiwn uchel â pheli n a byddaf yn dangos sawl ffenomen annisgwyl sy’n gysylltiedig â phatrymau gorchuddio da. Byddaf hefyd yn sôn am y broblem o ran cwanteiddio, sydd hefyd yn cael ei alw y broblem o ran lleoliad delfrydol cyfleusterau.

Mae data sydd ar goll yn broblem gyffredin wrth ddadansoddi data. Ceir dulliau syml i ymdrin â'r broblem hon ond nid ydynt bob amser yn ddelfrydol gan y bydd y rhain weithiau’n gogwyddo’r dadansoddiad. Yn y cyflwyniad hwn byddaf yn adolygu maes y data sydd ar goll ac yn cyflwyno rhai pynciau rwyf wedi ymlafnio i’w datrys yn y maes hwn. Yn benodol, byddaf yn siarad am y dull o briodoli lluosog yn ddull sy’n apelio er mwyn ymdrin â’r broblem hon. Byddaf hefyd yn trafod y dull o ymdrin â phroblem data sydd ar goll wrth ddylunio arbrawf.

Os bydd digon o amser, byddaf hefyd yn siarad am broblem cyfrinachedd data. Yn y maes hwn, mae tensiwn rhwng sefydliadau sy'n dal data ac yn rhyddhau data defnyddiol i ymchwilwyr a'r cyhoedd tra eu bod hefyd yn diogelu preifatrwydd yr unigolion hynny a ddarparodd y data. Byddaf yn canolbwyntio yma ar faes data synthetig yn ddull ymarferol o fynd i’r afael â’r broblem hon.

Rwy'n bwriadu i'r ddarlith hon fod yn hygyrch i gynulleidfa eang felly byddaf yn ceisio peidio â mynd yn rhy ddwfn i’r manylion technegol gan geisio cyflwyno yn hytrach y problemau a'r dulliau ymchwil mewn ffordd annhechnegol pryd bynnag y bo modd.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â Dr Jonathan Ben-Artzi os bydd gennych chi gwestiynau am y gyfres hon o ddigwyddiadau.

Dr Jonathan Ben-Artzi

Dr Jonathan Ben-Artzi

Senior Lecturer

Email
ben-artzij@caerdydd.ac.uk
Telephone
02920 875624