Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Teilwra'ch profiad dysgu i weddu i'ch diddordebau a'ch uchelgeisiau gyrfa ar ein graddau israddedig hyblyg.

Dyluniwyd ein cyrsiau mathemateg i ddarparu sylfaen gadarn ym myd sylfaenol mathemateg, a symud ymlaen i gynnwys modiwlau arbenigol mewn meysydd ymchwil blaengar.

Yn ogystal, mae cyfleoedd lleoli proffesiynol a blwyddyn dramor ar gael ar ein holl gyrsiau i wella'ch astudiaethau a'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y gweithle.

MATHS Abacws UG courses

Cyrsiau gradd

Os nad ydych yn siŵr pa feysydd o fathemateg yr hoffech eu hastudio, mae ein BSc mewn Mathemateg yn cwmpasu sbectrwm eang o bynciau mathemategol a gellir eu teilwra i gwrdd â'ch diddordebau trwy ystod eang o fodiwlau dewisol.

Graddau â ffocws

Os ydych chi eisoes yn adnabod y maes yr hoffech chi arbenigo ynddo, gallwch ddewis un o'n graddau â ffocws mewn ymchwil weithrediadol ac ystadegaeth neu fathemateg ariannol.

Rydym hefyd yn cynnig dwy radd meistr israddedig, yr MMath a'r MMORS, ar gyfer myfyrwyr sydd am ennill cymhwyster lefel uwch neu baratoi ar gyfer gyrfa ymchwil.

Anrhydeddau ar y cyd

Mae ein gradd anrhydedd ar y cyd yn caniatáu ichi gadw'ch opsiynau gyrfa ar agor a dilyn eich diddordebau mathemategol a cherddorol trwy hollt 50/50.

Cysylltwch â ni

Dr Matthew Lettington

Dr Matthew Lettington

Lecturer

Email
lettingtonmc@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5670
Caroline Frame-Morgan

Caroline Frame-Morgan

Admissions and Clerical Assistant

Email
framec@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4811