Ysgoloriaethau doethurol i ôl-raddedigion mewn Mathemateg
Rydym yn dyfarnu nifer bach o ysgoloriaethau doethurol a ariennir bob blwyddyn.
Weithiau caiff ysgoloriaethau eu hatodi at gyllid grant allanol. Bydd y prosiect PhD yn benodol ac yn agored i geisiadau. Darllenwch y manylion yn ofalus i wirio eich bod yn gymwys gan fod gofynion gwahanol gan brosiectau gwahanol.
Mae ysgoloriaethau i fyfyrwyr y DU yn cynnwys ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth.
Ysgoloriaethau EPSRC
Rydym yn dyfarnu nifer bach o ysgoloriaethau doethurol a ariennir gan EPSRC bob blwyddyn.
Mae ysgoloriaethau doethurol a ariennir gan EPSRC ar gael i ymgeiswyr y DU/UE. Cânt eu dyfarnu ar sail gystadleuol ac yn amodol ar ofynion preswylio’r cyngor ymchwil.
Ymholiadau
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ein hysgoloriaethau cysylltwch â maths-pgr@cardiff.ac.uk.
Full details of how to apply once you have discussed your proposal are available in course finder.