Ewch i’r prif gynnwys

Staff a myfyrwyr ar ymweliad

Gall myfyrwyr, ymchwilwyr, academyddion a staff o sefydliadau addysg uwch eraill ymuno â’n llyfrgelloedd drwy ddefnyddio ein cynlluniau aelodaeth pwrpasol.

SCONUL Access

Mae staff, ymchwilwyr, ôl-raddedigion a addysgir a dysgwyr o bell o sefydliadau addysg uwch sy'n rhan o’r cynllun yn gallu benthyca o dan y cynllun SCONUL Access. Gall eich sefydliad cartref ddarparu manylion ynghylch sut mae gwneud cais.

O dan y cynllun mynediad i SCONUL  gallwch ymuno fel aelod o Brifysgol Caerdydd, fydd yn golygu eich bod yn gallu:

  • benthyg hyd at chwe eitem ar unrhyw adeg o'n casgliadau 1 wythnos, 2 wythnos a 4 wythnos o hyd.
  • cael mynediad at y gwasanaeth di-wifr eduroam
  • sefydlu cyfrif argraffu gwadd i argraffu gan ddefnyddio eich gliniadur neu eich dyfais symudol eich hun
  • defnyddio’r mynediad cerdded i mewn i’r gwasanaeth eAdnoddau

Bydd angen i chi ymuno â chynllun SCONUL Access cyn gwneud cais am aelodaeth yn llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd.

Israddedigion llawn amser o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol De Cymru

Os ydych yn fyfyriwr israddedig llawn amser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru neu Brifysgol De Cymru, gallwch ymuno â'n cynllun benthyca cyfatebol. O dan y cynllun dwyochrog, gallwch:

  • fenthyg hyd at ddwy eitem ar unrhyw adeg o'n casgliadau benthyciad 1 wythnos, pythefnos a 4 wythnos
  • cael mynediad at y gwasanaeth di-wifr eduroam

Bydd angen i chi e-bostio gwasanaeth llyfrgell eich sefydliad cartref i'w gymeradwyo cyn gwneud cais am aelodaeth yn llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd.

Sut i ymuno

Cwblhewch ein ffurflen aelodaeth ar-lein i ymuno a defnyddio ein llyfrgelloedd.  Mae angen i chi hefyd e-bostio'r canlynol i librarymembership@caerdydd.ac.uk i gwblhau eich aelodaeth:

  • cadarnhad o'ch cymeradwyaeth SCONUL Access (rhaid i'ch enw, sefydliad cartref, dyddiad dod i ben a band fod yn weladwy) neu e-bost cadarnhau gan eich sefydliad cartref (ar gyfer israddedigion llawn amser o sefydliadau Caerdydd)
  • sgan neu lun o'ch cerdyn adnabod neu gerdyn llyfrgell gan eich sefydliad cartref
  • llun maint pasbort (ar gyfer eich cerdyn llyfrgell Prifysgol Caerdydd)

I weld rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau i aelodau, gallwch weld ein tudalen Benthyg Llyfrau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cynlluniau aelodaeth, cysylltwch â ni.

Cerdyn Adnabod cyfeiriadol/mynediad yn unig

Os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn o unrhyw sefydliad arall mynediad i SCONUL, neu os ydych chi’n ymwelydd rheolaidd â’n llyfrgelloedd, efallai y byddwch am gael cerdyn adnabod cyfeiriadol/mynediad-yn-unig. Anfonwch e-bost at librarymembership@caerdydd.ac.uk am wybodaeth.

Noder: Ni fydd gennych hawl i fenthyg llyfrau â’r cerdyn hwn.