Ewch i’r prif gynnwys

Staff Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Gallwch ymuno â llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd os ydych yn aelod o staff a gwasanaethau GIG lleol.

Mae gan staff yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a meddygon teulu yng Nghaerdydd hawl i fod yn aelodau cyflawn o'r llyfrgell a manteisio ar ein holl wasanaethau, adnoddau a chyfleusterau (ac eithrio cyfrifon rhwydwaith Prifysgol Caerdydd a mynediad ar-lein at e-adnoddau Prifysgol Caerdydd).

Mae Llyfrgell Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre hefyd yn cynnig gwasanaethau i Wasanaeth Gwaed Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Tŷ Hafan, Hosbis Marie Curie (Caerdydd a’r Fro), a City Hospice.

Drwy'r cynllun aelodaeth hwn gallwch wneud y canlynol:

  • benthyca hyd at 35 o eitemau o unrhyw un o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd
  • defnyddio LibrarySearch i ddod o hyd i eitemau yn ein llyfrgelloedd ym Mhrifysgol Caerdydd ac i gael mynediad at eich cyfrif llyfrgell
  • defnyddio LibrarySearch GIG Cymru i ddod o hyd i eitemau print ac electronig yn llyfrgelloedd iechyd Caerdydd a GIG Cymru, ynghyd ag e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru
  • Defnyddio’r casgliadau o gyfnodolion gyda mynediad ‘cerdded i mewn’ at ein hadnoddau electronig (yn amodol ar gytundebau trwyddedu)
  • defnyddio'r gwasanaeth cyflenwi dogfennau rhyng-lyfrgell ar gyfer eitemau nad ydyn nhw ar gael yn lleol
  • defnyddio cyfleusterau llungopïo, argraffu a sganio
  • defnyddio cyfrifiaduron rhwydwaith Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sydd ar gael yn Llyfrgell Archie Cochrane Llyfrgell Brian Cooke a'r Llyfrgell Iechyd
  • defnyddio cyfrifiaduron rhwydwaith Ymddiriedaeth GIG Prifysgol Felindre yn Llyfrgell Ymddiriedaeth GIG Prifysgol Felindre
  • defnyddio ystafelloedd hyfforddi TG yn llyfrgelloedd Archie Cochrane ac Iechyd, y gallwch drefnu eu harchebu ar gyfer sesiynau hyfforddi grŵp gydag adnoddau rhyngrwyd.
  • gwneud cais am fynediad i ddefnyddio'r man astudio Parth Ôl-raddedig ym mhrif adeilad Ysbyty Athrofaol Cymru (staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn unig).

Gall ein staff gynorthwyo gyda defnyddio cronfeydd data, chwiliadau lenyddiaeth, adolygiadau llenyddiaeth systematig a hawlfraint. Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant ar e-lyfrgell Iechyd GIG Cymru a'ch helpu i gael cyfrif Athens er mwyn defnyddio e-adnoddau gartref. Gellir trefnu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth yn unigol ac mewn grwpiau. Holwch aelod o staff y llyfrgell am ragor o wybodaeth.

Sut mae ymuno

Rydym yn cynnig tair ffordd o gofrestru.

Cofrestru wyneb-yn-wyneb

Ewch i desg ymholiadau'r llyfrgell yn Adeilad Cochrane ym Mharc y Mynydd Bychan rhwng 09:00 a 18:00 ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10.30 a 16:30 ddydd Sadwrn. Cymerwch eich cerdyn adnabod ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ymddiriedaeth GIG Prifysgol Felindre, neu AaGIC, wedyn llenwch ffurflen gofrestru. Caiff eich llun ei dynnu a’ch cerdyn ei gynhyrchu.

Cofrestru ar-lein

Llenwch y ffurflen ar-lein ar wefan Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth GIG Cymru.

Cofrestru drwy ebost

Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro/AaGIC - ebost cochraneliby@caerdydd.ac.uk.

Staff Ymddiriedaeth GIG Prifysgol Felindre - ebostio library.velindre@wales.nhs.uk.

Byddwn yn anfon ffurflen aelodaeth atoch.

Mae bod yn aelod yn eich galluogi i ddefnyddio ein holl adnoddau GIG yn llawn: cewch y manylion llawn yn yr adran ‘Gwybodaeth am aelodaeth’ uchod.