Ewch i’r prif gynnwys

Mynediad galw heibio at adnoddau electronig

Mae ein hadnoddau electronig ar gael ar gyfer y cyhoedd yn ogystal â staff a myfyrwyr ymweliadol drwy gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ‘mynediad galw heibio at adnoddau electronig’.

Mae’r gwasanaeth ar gael ar derfynellau penodol yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd. Mae’r trefniadau mynediad ar gyfer pob llyfrgell i’w gweld ar ein tudalen lleoliadau ac oriau agor.

Cofrestrwch ar gyfer mynediad galw heibio

Rhaid i chi gofrestru yn un o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd bob tro y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth. I gofrestru, dewch ag un o'r mathau canlynol o brofion adnabod addas:

  • cerdyn llyfrgell cyfredol aelod cyswllt o Brifysgol Caerdydd
  • pasbort / cerdyn adnabod cenedlaethol yr UE
  • trwydded yrru y Deyrnas Unedig
  • cerdyn credyd neu ddebyd cyfredol
  • bill cyfleustodau
  • cerdyn neu lyfr budd-daliadau
  • datganiad banc neu gerdyn credyd
  • cerdyn adnabod myfyriwr neu gerdyn NUS

Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Ar y diwrnod pan fyddwch yn bwriadu ymweld, rydym yn argymell eich bod yn ffonio un o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd i gael gwybod beth sydd ar gael.

Cewch wybod beth ydym yn ei wneud gyda gwybodaeth bersonol yn hysbysiad preifatrwydd gwasanaethau’r Llyfrgelloedd.

Defnyddio’r adnoddau electronig

Ar ôl i chi gofrestru, bydd un o aelodau staff y llyfrgell yn eich mewngofnodi i’r gwasanaeth mynediad galw heibio ar un o’n terfynellau penodol i gyfrifiaduron:

  • wedyn dylech allu gweld y dudalen Croeso/Welcome
  • Cliciwch ar y tab Adnoddau/Resources i gael mynediad at yr holl adnoddau sydd ar gael.

Cofiwch y gallwch chwilio am gynnwys oddi mewn i adnoddau unigol yn unig, nid ar draws y gwasanaeth cyfan

Cofiwch, os gwelwch yn dda:

  • i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, rhaid i chi gydymffurfio â’r rheoliadau hawlfraint a’n telerau ac amodau
  • dim ond drwy un o'r terfynellau cyfrifiadurol pwrpasol yn y llyfrgelloedd sy'n rhan o’r gwasanaeth hwn y cewch fynediad i eAdnoddau
  • gallwch chwilio oddi mewn i bob adnodd, ond nid ydym yn tanysgrifio i’r holl gynnwys ym mhob adnodd
  • gellir tynnu mynediad i adnoddau penodol, neu fynediad at y gwasanaeth yn gyffredinol, yn ôl ar unrhyw adeg

Ni chewch wneud y canlynol:

  • defnyddio'r gwasanaeth at ddibenion masnachol neu fusnes
  • e-bostio neu gadw canlyniadau unrhyw chwiliadau neu erthyglau
  • cyrchu unrhyw safleoedd, meddalwedd neu gymwysiadau (megis Microsoft Office neu e-bost) sydd y tu allan i'r gwasanaeth hwn o’r derfynell hon

Yr adnoddau electronig sydd ar gael

Rydym yn cynnig mynediad galw heibio at lawer o wahanol adnoddau i’r cyhoedd yn ogystal â staff a myfyrwyr ymweliadol. Mae hyn yn cynnwys adnoddau sy’n ymwneud ag ystod o feysydd pwnc (e.e. cronfeydd data Ebscohost, Proquest a JSTOR, SCOPUS, ScienceDirect) yn ogystal ag adnoddau sy’n trafod pynciau mwy penodol (e.e. Cyfnodolion, Llyfrau a Chronfeydd Data y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Papurau Seneddol y DU).

Yma gallwch gael mynediad at restr lawn o adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd drwy'r gwasanaeth mynediad galw heibio.