Ewch i’r prif gynnwys

Chwilio ein casgliadau

Darganfyddwch sut i chwilio ein casgliadau a rheoli eich canlyniadau chwilio.

Defnyddiwch LibrarySearch i chwilio am lyfrau, cyfnodolion ac eitemau eraill. Gallwch hefyd fireinio eich canlyniadau, cadw ymarfer chwilio a threfnu hysbysiadau.

Nodwch na fyddwch yn gallu benthyg llyfrau a gwneud cais amdanynt oni bai eich bod yn astudio neu’n gweithio yn y Brifysgol neu wedi ymuno â’n llyfrgelloedd drwy un o’r cynlluniau aelodaeth canlynol:

Gall unrhyw un chwilio LibrarySearch, ond oni bai eich bod yn astudio neu’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, ni fydd holl destun adnoddau electronig ar gael i chi. Bydd yr adnoddau’n codi mewn canlyniadau chwilio, ond ni fyddant ar gael i chi.

Bydd rhai cronfeydd data a chyfnodolion electronig ar gael i ymwelwyr drwy ein gwasanaeth Mynediad Galw Heibio at Adnoddau Electronig.

Mewngofnodwch i LibrarySearch i sicrhau bod pob adnodd ar gael i chi. Bydd y canlyniadau chwilio’n dangos popeth sydd ar gael, a byddwch yn gallu darllen y detholiad llawn o erthyglau ar-lein, gan eich bod wedi eich dilysu’n ddefnyddiwr trwyddedig drwy’r Brifysgol. Cofiwch mai dim ond i’r rhai sy’n astudio neu’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd y bydd pob adnodd electronig ar gael.

Ar ôl i chi fewngofnodi, gallwch ddefnyddio holl wasanaethau LibrarySearch, fel gwneud cais am eitemau, cadw eitemau yn Fy Ffefrynnau, cadw ymarferion chwilio a threfnu hysbysiadau.

Cliciwch ar Fewngofnodi yng nghornel dde uchaf. Ar y sgrîn nesaf, dewiswch yr opsiwn priodol.

PwyOpsiwn mewngofnodi LibrarySearch
Myfyrwyr a staff Prifysgol CaerdyddStaff a myfyrwyr
Addysg Barhaus a PhroffesiynolAelodau o’r gymuned
Aelod o staff y GIGAelodau’r GIG
Aelod cyswlltAelodau o’r gymuned

Byddwch yn gwybod eich bod wedi mewngofnodi pan fydd eich enw i’w weld yng nghornel dde uchaf y sgrîn. Os byddwch yn defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus, sicrhewch eich bod yn allgofnodi ar ôl gorffen ddefnyddio LibrarySearch.

Rhowch eich allweddeiriau yn y blwch chwilio i gael canlyniadau sy’n cyd-fynd â nhw. Mae ChwilioPopeth@Caerdydd yn opsiwn diofyn sy’n chwilio ein holl gasgliadau electronig a phrint am lyfrau, erthyglau a llawer mwy.

Gallwch ddewis opsiynau eraill yn y gwymplen, a fydd yn helpu i sicrhau bod y canlyniadau’n glir eu canolbwynt:

OpsiwnBeth mae’n chwilio amdano?
Casgliadau Llyfrgell Prifysgol CaerdyddCynnwys print ac ar-lein y mae Prifysgol Caerdydd wedi’i brynu ac wedi tanysgrifio iddo
Erthyglau & MwyCynnwys ar-lein sydd ar gael i Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys erthyglau mewn cyfnodolion, papurau cynhadledd a phenodau llyfrau – yn chwilio y tu hwnt i adnoddau ar-lein y mae Prifysgol Caerdydd wedi tanysgrifio iddynt
e-GyfnodolionTeitlau cyfnodolion ar-lein
e-LyfrauTeitlau a manylion llyfryddol llyfrau ar-lein
ORCA (Online Research @ Caerdydd)Traethodau ymchwil yng nghadwrfa sefydliadol Prifysgol Caerdydd – testun llawn ar gael weithiau
Casgliadau ArbennigCynnwys yng nghasgliadau arbennig Prifysgol Caerdydd
Casgliadau Caerdydd a’r GIGCynnwys print ac ar-lein y mae Prifysgol Caerdydd a’r GIG yng Nghymru wedi’i brynu ac wedi tanysgrifio iddo
Casgliadau Llyfrgell GIG CymruAdnoddau print ac ar-lein lleol llyfrgelloedd ysbytai’r GIG yng Nghymru, gan gynnwys llyfrau yn llyfrgelloedd iechyd Prifysgol Caerdydd – adnoddau y tanysgrifir iddynt ar gael i aelodau’r GIG yng Nghymru’n unig

Gallwch hefyd ddefnyddio’r dewislenni hidlo o dan y blwch chwilio i ddewis math penodol o eitem ac ym mhle y dylai’r termau chwilio godi. Dewiswch o blith yr opsiynau ar yr ochr dde i fireinio eich canlyniadau.

Mae'r adran Manylion o’r cofnod yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr eitem. Weithiau, yn achos llyfrau, mae cysylltiadau i dabl cynnwys, a all eich helpu i benderfynu a fyddai’r eitem yn ddefnyddiol i chi.

Cliciwch ar Chwiliad Uwch i chwilio mewn ffyrdd mwy penodol – er enghraifft, chwilio am deitlau sy’n dechrau gyda’ch termau chwilio neu sy’n cyd-fynd â’ch termau chwilio’n union.

Gallwch ddewis Llyfrau yn y ddewislen hidlo gyntaf o dan y blwch chwilio ac yna chwilio am y llyfr sydd ei angen arnoch drwy ddefnyddio ChwilioPopeth@Caerdydd. Fel arall, gallwch chwilio am eich llyfr ac yna, ar yr ochr dde ar ôl chwilio, ddewis Llyfrau o dan Fath o Adnodd. Gallwch hefyd ddewis Casgliadau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd yn y gwymplen ar ochr dde’r blwch chwilio i sicrhau bod y rhestr o ganlyniadau’n cynnwys llyfrau’n bennaf.

Os bydd mwy nag un argraffiad a/neu gopi electronig o'r llyfr, bydd LibrarySearch yn grwpio’r rhain gyda’i gilydd yn un canlyniad. Cliciwch ar Weld pob fersiwn er mwyn gweld pob argraffiad. Dewch o hyd i’r argraffiad sydd ei angen arnoch. Yna, cliciwch ar y teitl. Ewch i’r adran Gosod Cais o’r cofnod i gael gwybod ble mae, beth yw’r marc dosbarth a ph’un a yw ar gael i’w fenthyg.

Er mwyn chwilio am lyfrau sydd ar gael yn unig (h.y. nad ydynt eisoes ar fenthyg i ddefnyddiwr arall), dewiswch Ar gael yn llyfrgell ar yr ochr dde.

Y ffordd gyflymaf o ddod o hyd i gyfnodolyn drwy ddefnyddio ChwilioPopeth@Caerdydd yw chwilio am y teitl. Yna, ar yr ochr dde, dewiswch Gyfnodolion o dan Fath o Adnodd.

Fel arall, gallwch glicio ar Chwiliad Uwch a dewis Cyfnodolion yn y gwymplen gyntaf. Os yw ar gael ar-lein, cliciwch Mynediad arlein. Os bydd angen fersiwn brint arnoch, cliciwch ar y teitl i weld ym mha lyfrgell y mae un ar gael a pha flynyddoedd sydd ar gael.

Os oes gennych restr faith o ganlyniadau, efallai y byddwch am ddewis opsiynau o dan Addasu fy nghanlyniadau ar yr ochr dde i gyfyngu ar y canlyniadau yn ôl dyddiad, awdur, pwnc neu rywbeth arall.

Cliciwch ar Ddangos Mwy i ehangu’r rhestr o opsiynau. Gallwch gynnwys pynciau drwy glicio ar y blychau ar yr ochr chwith neu eu gadael allan drwy glicio ar yr eiconau ar yr ochr dde. Pan fyddwch wedi gwneud eich dewisiadau, cliciwch ar OSOD HIDLWYR. Bydd gwneud hyn yn dangos eich dewisiadau ar frig y rhestr o dan Hidlwyr gweithredol. Gallwch gael gwared ar unrhyw rai neu bob un o’r dewisiadau rydych wedi’u gwneud.

Mae'r opsiwn Dyddiad Creu o dan Addasu fy nghanlyniadau yn eich galluogi i fireinio eich canlyniadau yn ôl dyddiad creu’r eitem. Mae hyn yn ddefnyddiol os oes gennych ddiddordeb mewn eitemau a grëwyd o fewn cyfnod penodol o amser yn unig. Gallwch deipio’r blynyddoedd i mewn i’r blychau neu ddefnyddio’r botymau i fyny ac i lawr i bennu cyfnod amser.

Gallwch ychwanegu llyfrau ac erthyglau defnyddiol at Fy Ffefrynnau. Pan fyddwch yn gwneud hyn, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi.

Cliciwch ar y pin yng nghornel dde uchaf yr eitem rydych am ei gadw. Bydd y pin yn newid i bin â llinell drwyddo er mwyn dangos bod yr eitem wedi’i ‘phinio’ i’ch rhestr o ffefrynnau. Cliciwch ar y pin yng nghornel dde uchaf y sgrîn i fynd at Fy Ffefrynnau a gweld yr eitemau rydych wedi’u cadw. Mae'n bosibl argraffu manylion yr eitemau yn Fy Ffefrynnau, ebostio eitemau atoch chi eich hun a/neu allforio eitemau i EndNote.

I weld rhestr o eitemau rydych wedi’u benthyg, dylech ddewis Fy Nghyfrif Llyfrgell, dewis Benthyciadau ac yna ddewis Benthyciadau blaenorol a hanesyddol yn y gwymplen.

I gadw ymarfer chwilio ar gyfer dyddiad diweddarach, cliciwch Cadw ymholiad ar frig y rhestr o ganlyniadau ar ôl gorffen chwilio.

Bydd trefnu hysbysiad yn golygu eich bod yn cael neges ebost pan fydd eitemau newydd ar gael sy’n cyd-fynd â’ch ymarfer chwilio – er enghraifft, ar ôl ychwanegu erthyglau newydd. Bydd y system yn chwilio am eitemau newydd sy’n cyd-fynd â’ch ymarfer chwilio ar adegau penodedig, a bydd y canlyniadau’n cael eu hanfon atoch drwy ebost.

I drefnu hysbysiad, dewiswch Gadw ymholiad ar ôl gorffen chwilio. Bydd baner felen yn ymddangos ar frig y sgrîn sy’n dweud ‘Cadwyd yr ymholiad chwilio i’ch ffefrynnau.’ Ar ôl hynny, cliciwch ar y frawddeg ‘Galluogi hysbysiadau ar gyfer yr ymholiad hwn’.

Fel arall, gallwch fynd i Fy Ffefrynnau, dewis Ymholiadau chwilio a gadwyd a chlicio ar y gloch wrth ochr ymarfer chwilio.

I weld pa ymarferion chwilio a gadwyd gennych, dylech fynd i Fy Ffefrynnau a dewis Ymholiadau chwilio a gadwyd. Gallwch wneud hyn hefyd i weld pa hysbysiadau a drefnwyd gennych. I newid y cyfeiriad ebost y bydd hysbysiadau’n cael eu hanfon iddo, cliciwch ar y gloch ddwywaith. Drwy wneud hynny, byddwch yn gweld baner felen ar frig y sgrîn sy’n dweud ‘Anfonir hysbysiadau at xxxx@cardiff.ac.uk’. Cliciwch ar y frawddeg ‘Newid cyfeiriad ebost’ i newid eich cyfeiriad ebost. I beidio â chael hysbysiadau mwyach, cliciwch ar y pin â llinell drwyddo ar ochr dde’r ymarfer chwilio.