Ewch i’r prif gynnwys

Ein casgliadau

Mae gennym dros 1.2 miliwn o lyfrau a chyfnodolion yn ein llyfrgelloedd ac amrywiaeth eang o adnoddau ar-lein sy'n tyfu'n gyson.

Mae ein llyfrgelloedd modern ar draws ein campysau ac yn cynnwys llyfrgelloedd arbenigol fel pensaernïaeth, iechyd, y gyfraith, cerddoriaeth a'r gwyddorau. Rydym yn tanysgrifio i filoedd o gyfnodolion electronig a llyfrau a channoedd o gronfeydd data.

Mae ein Casgliadau Arbenigol yn cadw, hyrwyddo ac yn datblygu ein hadnoddau hanesyddol ac arbenigol. Maent yn amrywio dros nifer o bynciau yn cynnwys y Gymraeg, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, cerddoriaeth, y gwyddorau a meddygaeth.

Rydym yn cynnig mynediad i wybodaeth sylweddol am yr Undeb Ewropeaidd a'r Ewrop ehangach, ar bapur ac ar ffurf electronig yn y Ganolfan Dogfennaeth Ewropeaidd.

Casgliadau electronig

Rydym yn cynnig mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau electronig, eLyfrau ac eGyfnodolion, sydd ar gael i ymchwilwyr, staff a myfyrwyr y Brigysgol, gan gynnwys Economist Historical Archive, Linguistics and Language Behavior Abstracts, Digimap Collections, Refinitiv, Migration to New Worlds, Mass Observation Online Archive, MLA International Bibliography, Lyell Collection, Royal Society of Chemistry Gold Collection, SciFinder a Detail Inspiration.

Casgliadau print

Mae gennym nifer o gasgliadau print unigryw yn ein llyfrgelloedd yn ogystal â'r rhai hynny yn ein casgliadau arbennig.

Papurau dyddiol a phenwythnosol Prydeinig

Mae Llyfrgell Bute yn tanysgrifio i holl bapurau dyddiol a phenwythnosol Prydeinig yn cynnwys papurau Cymru fel y Western Mail a'r South Wales Echo. Mae'r rhain yn cael eu cadw am flwyddyn yn yr Ystafell Papurau Newydd yng nghoridor y De heblaw am gopïau'r mis diweddaraf sy'n cael eu cadw yn Llyfrgell y Sgwâr Canolog.

Archif Cochrane

Mae Archif Cochrane yn gofnod cynhwysfawr o fywyd, gwaith a chyflawniadau Archibald Leman Cochrane CBE FRCP FFCM (1909-1988). Mae'r Archif yn cynnwys lluniau, eitemau personol a phapurau personol sy'n adnodd cyfoethog ar gyfer ymchwil am fywyd a bywyd proffesiynol Archie Cochrane.

I ymweld â Chasgliad Archif Cochrane, cysylltwch â'r llyfrgellydd yn Llyfrgell Archie Cochrane.

Gofyn am gopi o 'One man's medicine: an autobiography of Professor Archie Cochrane' a gyhoeddwyd fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant genedigaeth yr Athro Cochrane.

Casgliad Llyfrau Prin Pensaernïaeth

Craidd y casgliad yw rhodd o lyfrau yn dyddio’n ôl i ddechrau’r ddeunawfed ganrif o lyfrgell Robert Williams FRIBA. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys nifer cynyddol o eitemau yn ymwneud â phensaernïaeth yr ugeinfed ganrif.

Gellir gweld y llyfrau drwy apwyntiad o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00 - 17.00. Cysylltwch â'r Llyfrgell Pensaernïaeth i drefnu apwyntiad.

Casgliad Santander o Gomics Sbaenaidd a Llenyddiaeth Graffeg

Mae'r casgliad unigryw hwn yn canolbwyntio ar lenyddiaeth graffeg a ysgrifennwyd yn Sbaeneg neu'n cynnwys y byd Sbaenaidd fel pwnc y llenyddiaeth. Mae'n cynnwys deunydd o America Sbaenaidd a Sbaen, ac yn cynnwys teitlau mewn print diweddar yn ogystal â deunydd hŷn o ffurfiau o lenyddiaeth sydd heb gael eu harchwilio rhyw lawer. Gallwch weld y casgliad drwy Lyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol. Mae rhestr gyflawn o deitlau ar gael drwy LibrarySearch.

Casgliadau sgor cerddoriaeth

Ein casgliad cerddoriaeth, a gedwir yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, yw’r brif ffynhonnell ar gyfer deunydd ymchwil cerddoriaeth yn y De-orllewin. Mae'r casgliad sgôr, sy'n cael ei drefnu yn ôl cyfansoddwr, yn cynnwys y canon llawn o allbwn cyfansoddiadol. Mae uchafbwyntiau'r casgliad yn amrywio o argraffiad Syrilig cyflawn prin o weithiau Rimsky-Korsakov (a olygwyd gan Shostakovich), i weithiau a gyhoeddwyd gan Wasg Coleg Prifysgol Caerdydd, nifer ohonynt yn unigryw yn y byd.

Mae rhestr gyflawn o deitlau ar gael drwy LibrarySearch. Mae cyngor manwl ar gael adnoddau'r llyfrgell a'u defnyddio yn gallu cael eu darparu drwy'r Llyfrgellydd Pwnc penodol ar gyfer Cerddoriaeth.