Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgell Archie Cochrane

Mae Llyfrgell Archie Cochrane wedi'i lleoli yng Nghanolfan Academaidd Routledge, Ysbyty Llandochau ac mae'n cynnwys casgliadau ar feddygaeth, llawfeddygaeth, nyrsio, iechyd cysylltiedig, seiciatreg a seicoleg, yn ogystal ag Archif Cochrane.

View Llyfrgell Archie Cochrane on Google Maps

Oriau agor

Mae Llyfrgell Archie Cochrane wedi'i lleoli yng Nghanolfan Academaidd Routledge, sef yr adeilad mawr ar y dde ychydig ar ôl mynd i mewn i brif gatiau safle Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae mynediad 24 awr ar gael ar gais, ar gyfer staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a myfyrwyr sydd ar leoliad. Ebostiwch cochraneliby@caerdydd.ac.uk i gael help.
Dydd Llun 08:00 - 17:00
Dydd Mawrth 08:00 - 17:00
Dydd Mercher 08:00 - 17:00
Dydd Iau 08:00 - 17:00
Dydd Gwener 08:00 - 17:00
Dydd Sadwrn Ar gau
Dydd Sul Ar gau

Mae’r oriau agor hyn ar gyfer yr wythnos gyfredol. Gweld amseroedd agor ar gyfer 2023-24

Amdanom ni

Mae’r Llyfrgell a’r gronfa ddata tystiolaeth gofal iechyd a elwir yn Llyfrgell Cochrane wedi eu henwi ar ôl y diweddar Athro Archie Cochrane, a fu’n gweithio am flynyddoedd lawer yn ardal Caerdydd. Hyrwyddodd y cysyniad o dreialon rheoledig ar hap a’r angen am ymarfer ar sail tystiolaeth.  Mae Archif Cochrane yn cynnwys memorabilia yn ymwneud â’i fywyd a’i waith.  Rhagor o fanylion ar gael ar gais gan y llyfrgellydd.

Mynediad

Nid yw'r llyfrgell ar agor i gleifion, ymwelwyr ysbyty neu aelodau o'r cyhoedd. Darperir Gwasanaethau/Canolfannau Gwybodaeth Gleifion yn Ysbyty'r Brifysgol Llandochau ac Ysbyty Athrofaol Cymru, a drwy Ganolfan Canser Felindre.

  • Mynediad llawr gwaelod i'r ganolfan gyda lifft i'r llyfrgell
  • Toiled anabl
  • Gofynnwch am gymorth oddi wrth staff ar gyfer dod o hyd i lyfrau

Gwybodaeth am barcio ceir a theithio cynaliadwy.

Ymholiadau Llyfrgell Archie Cochrane

Email
cochraneliby@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2071 6255
twitter no background icon
CAVUHBLibraries

Lleoliad Llyfrgell

Canolfan Academaidd Routledge
Ysbyty Prifysgol Llandochau
Penarth
Caerdydd
CF64 2XX