Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ymchwil Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein staff ymchwil yn rhan o rwydweithiau'r DU, Ewrop a'r byd.

Mae ein hymchwilwyr yn weithgar mewn nifer o gymdeithasau proffesiynol allweddol ac yn cydweithio'n aml gydag ymarferwyr mewn amrywiaeth o lefelau.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF) roedd ein hymchwil gyfreithiol yn y 5ed safle am ddiwylliant yr ymchwil ac yn 6ed am effaith yr ymchwil. Yn Uned Asesu (UOA) 'y gyfraith' cawsom bwynt gradd cyffredinol cyfartalog, sef 3.34 sy’n ein gosod yn y 15fed safle yn y DU.

Ymchwil ar Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gafodd y sgôr uchaf posibl, sef 4.0 am effaith yn Uned Asesu Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol, ac ystyriwyd 80% o'r gwaith a gyflwynwyd gennym i'r Uned Asesu gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran ei wreiddioldeb a’i arwyddocâd.

Welsh flag

Gwella democratiaeth yng Nghymru

Mae gwaith ein hacademyddion ar ddiwygio'r Senedd, ei hetholfraint a'i system etholiadol wedi arwain at y bleidlais ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed, gan osod y seiliau ar gyfer rhagor o  ddiwygiadau sylweddol o ran maint y Senedd a’i threfniadau etholiadol.

Cryfhau hawliau a chyfranogiad o dan gyfraith galluedd meddyliol

Roedd gwaith Dr Lucy Series a’i chydweithwyr ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gyfrifol am atgyfnerthu hawliau a chyfranogiad pobl y gellir ystyried nad oes ganddynt alluedd i wneud neu gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau.

Meithrin rhagor o undod Cristnogol trwy gyfraith yr Eglwys

Meithrin rhagor o undod Cristnogol trwy gyfraith yr Eglwys

Mae’n hymchwil i Gyfraith Canon wedi dylanwadu ar arweinyddion eglwysig, newid agweddau hirsefydlog a gwella ffyrdd o gyflawni gwaith eciwmenaidd yn y deyrnas hon ac yn Ewrop.

Sicrhau fframwaith tecach ar gyfer pwerau datganoledig yng Nghymru

Sicrhau fframwaith tecach ar gyfer pwerau datganoledig yng Nghymru

Yn dilyn refferendwm 2011 ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cynhaliodd Canolfan Llywodraethiant Cymru, dan arweiniad yr Athro Richard Wyn Jones, ddadansoddiad o’r drefn gyfansoddiadol, gan nodi llwybrau gwell ar gyfer gweithredu pwerau datganoledig.

Dylanwadu ar ddiwygio etholiadol yn Kenya

Dylanwadu ar ddiwygio etholiadol yn Kenya

Roedd ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn allweddol i wrthdroi canlyniad etholiad yn Kenya a gosododd gynsail ar gyfer gwell atebolrwydd, tegwch a datrysiad heddychlon i anghydfodau gwleidyddol lefel uchel.

Diogelu pobl sy’n agored i niwed yn well yn y ddalfa

Diogelu pobl sy’n agored i niwed yn well yn y ddalfa

Mae ymchwil y Dr Roxanna Dehaghani i ddiogelu trwy oedolyn priodol wedi arwain at ddiwygio’r gyfraith ac adolygu safonau.

Polisi Ymgorffori Mwyngloddio Gwely’r Môr Dwfn yn Economi Las Affrica

Polisi Ymgorffori Mwyngloddio Gwely’r Môr Dwfn yn Economi Las Affrica

Helpodd ymchwil gan yr Athro Edwin Egede wladwriaethau Affricanaidd i ddatblygu dull Mwyngloddio Gwely'r Môr Dwfn a fydd yn galluogi’r cyfandir i gael gafael ar ffynhonnell o gyfoeth mwynol nas defnyddiwyd o'r blaen.

Uchafbwyntiau'r gorffennol

Church stained glass

Fframwaith gyfreithiol i uno’r rhai o’r un ffydd

Helpu annog mwy o gydweithrediad a rheolau o fewn yr Eglwys.

Houses of Parliament, London

Deall Seisnigrwydd

Archwilio Seisnigrwydd o fewn newid gwleidyddol parhaus.

Welsh Assembly debating chamber

Llywodraethu a pholisi cyhoeddus

Archwilio sut mae gwledydd yn cael eu llywodraethu a sut datblygir polisi cyhoeddus.