Ewch i’r prif gynnwys

Israddedigion

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yw sylfaen deall bron pob agwedd ar y byd cyfnewidiol yr ydym yn byw ynddo. Cewch ddealltwriaeth drylwyr o'r maes hwn ar raglen israddedig a addysgir gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd - dyma Cerith

Astudio Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd

Wedi'u seilio ar ymchwil o safon rhyngwladol, mae ein cyrsiau gwleidyddiaeth israddedig yn heriol ac yn ysbrydoledig.

Fe wnaeth Aristotle alw gwleidyddiaeth yn "Feistr Gwyddoniaeth" ac am reswm da. Mae gwleidyddiaeth yn bwnc diddorol tu hwnt sydd â dylanwad sylweddol ar ein bywydau bob dydd.  Mae maes gwleidyddiaeth yn caniatáu i fyfyrwyr ymchwilio i’r modd y mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu a gwerthuso syniadau gwleidyddol fel pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb neu atebolrwydd.

Mae ein rhaglenni gwleidyddiaeth yn gyfle i chi fagu dealltwriaeth fanwl o’r maes yn ogystal â dilyn eich diddordebau drwy ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gradd cydanrhydedd sy'n galluogi myfyrwyr i gyfuno eu diddordeb mewn gwleidyddiaeth gyda meysydd eraill fel y dyniaethau neu ieithoedd ac astudio mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol.

Rhaglenni gradd

Enw'r raddCôd UCAS
Ffrangeg a Gwleidyddiaeth LR21
Almaeneg a Gwleidyddiaeth LR22
Cysylltiadau Rhyngwladol (BSc Econ) 305Q
Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth (BSc Econ) L290
Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth (gydag iaith) (BSc Econ) L292
Eidaleg a Gwleidyddiaeth (BA) LR23
Newyddiaduraeth, Cyfathrebu a Gwleidyddiaeth (BA) J323
Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth (LLB) ML12
Gwleidyddiaeth (BSc Econ) L200
Gwleidyddiaeth ac Economeg (BSc Econ) LL12
Gwleidyddiaeth a Hanes Fodern (BSc Econ) LV21
Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth (BA) LV25
Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg (BSc Econ) LL32
Gwleidyddiaeth a Sbaeneg (BA) LR24
Astudiaethau Crefyddol a Gwleidyddiaeth (BA) VL62
Cymraeg a Gwleidyddiaeth (BA) QL52

Cyd-raglen gradd Caerdydd-Bordeaux

Mae'r rhaglen arloesol hon yn fenter ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac un o sefydliadau amlycaf Astudiaethau Gwleidyddol yn Ffrainc. Mae’n gwrs unigryw ac yn gyfle i chi astudio yn y DU a Ffrainc a chael dwy radd nodedig ar ôl cwblhau. Mae myfyrwyr yn treulio blynyddoedd un a thri yng Nghaerdydd a blynyddoedd dau a phedwar yn Bordeaux.

Mae gan Brifysgol Caerdydd fri mawr fel canolfan ar gyfer astudio Gwleidyddiaeth Ffrengig ac mae'r cydanrhydedd Caerdydd-Bordeaux yn adeiladu ar ein modiwlau sefydledig mewn gwleidyddiaeth, drwy ategu'r wybodaeth a gafwyd gydag addysgu ac ymchwil o safon fyd-eang yn yr Institut d’Etudes Politiques, Sciences Po.

Darllenwch ragor o wybodaeth am Gyd-raglen gradd Caerdydd-Bordeaux, neu edrychwch ar ganllawiau ymgeiswyr Bordeaux.

Mae rhwydwaith FIFRU yn dod â myfyrwyr cyfredol a chyn-fyfyrwyr Gradd Ddwbl/Diploma Caerdydd-Bordeaux at ei gilydd.