Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig a Addysgir

Dilynwch gwrs astudio ôl-raddedig ac ymgysylltu gydag academyddion cyfreithiol blaenllaw ym maes ymarfer y gyfraith.

Rydym yn gartref i gorff o fyfyrwyr bywiog ac yn cynnig cyrsiau sydd at ddant amrywiaeth o ddiddordebau, cefndiroedd a dyheadau. Mae gennym amrywiaeth hyblyg o raglenni sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan amser.

Drwy ein rhaglen LLM gallwch elwa mewn sawl ffordd:

  • ymgysylltu gyda staff ymchwil sy'n flaenllaw iawn yn rhyngwladol
  • cael eich dysgu gan staff arbenigol a phrofiadol
  • astudio amrywiaeth eang o fodiwlau sy'n hyblyg
  • derbyn cefnogaeth fugeiliol drwy ein cynllun tiwtor personol
  • y cyfleusterau e-ddysgu diweddaraf, sydd yn hygyrch o unrhyw le
  • cael profiad o'r gyfraith ar waith drwy ein Cynllun Pro Bono a'r Prosiect Dieuogrwydd
  • rhaglen hyfforddi sgiliau pwrpasol
  • lle bod angen, cynigir cefnogaeth sgiliau ysgrifennu i fyfyrwyr nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt
  • Cynllunio Datblygiad Personol i werthuso eich cynnydd

Gallwch ddewis astudio LLM sy'n arbenigo mewn un o'r meysydd a restrwyd isod, neu gallwch chi astudio'r gyfraith heb arbenigo, drwy ddewis o'r rhestr modiwlau sydd ar gael.

Y cyrsiau a addysgir sydd ar gael