Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym wedi ymrwymo i roi profiad dysgu ac addysgu rhagorol i'n myfyrwyr.

Mae’r corff bywiog o fyfyrwyr ynghyd â staff academaidd helaeth eu cymwysterau ynddi’n cynnig yr amgylchedd perffaith i ymchwilio i feysydd dynamig y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau cyhoeddus a'u newidiadau cyflym. Rydym yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn cynnig amgylchedd cyfeillgar, cefnogol ac amrywiol o ran diwylliant i astudio ynddo.

Rydym yn falch iawn o'n diwylliant ymchwil amrywiol a bywiog gyda'r rhan helaeth o'n gweithgareddau ymchwil yn cael eu cydnabod yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae ein harbenigedd ymchwil yn cynnwys theori wleidyddol, polisi cyhoeddus, gwleidyddiaeth datganoli a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn cynnwys cyfraith ryngwladol, moeseg fyd-eang, diogelwch a môr-ladrata.

Mae ein henw da am ysgolheictod ym meysydd astudiaethau cyfreithiol-cymdeithasol yn canolbwyntio ar y "Centre for Law and Society" newydd a'r "Journal for Law and Society", yr olaf a gynhyrchwyd gan yr Ysgol. Caiff ei gyfoethogi drwy gydweithrediad sylweddol gydag Ysgolion eraill yn y Brifysgol a thu hwnt. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gyda chanolfannau'n cynnwys Canolfan Delfrydiaeth Brydeinig a Collingwood a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, yn ogystal â phartneriaid allanol fel Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.