Ewch i’r prif gynnwys

Ein lleoliad

Mae ein lleoliad yn Rhif 2 y Sgwâr Canolog yn ein gosod gerllaw cwmnïau cyfryngol lleol a chenedlaethol gan gynnwys y darlledwr BBC Cymru/Wales.

Mae ein lleoliad yn ein helpu i feithrin cysylltiadau cryfach â’r diwydiant, gan roi hwb i gyflogadwyedd myfyrwyr trwy ddarparu mynediad uniongyrchol i sefydliadau cyfryngau o bwys ym maes newyddiaduraeth, yn ogystal â’r diwydiannau creadigol a diwylliannol.

New JOMEC building

Cafodd y penseiri IBI eu comisiynu i ddylunio cynllun yr Ysgol a’i haddurno, sy’n cynnwys:

  • pedair darlithfa gan gynnwys darlithfa â 300 o seddi
  • pum ystafell seminar
  • llyfrgell bwrpasol
  • chwe ystafell newyddion
  • stiwdios teledu a radio
  • labordai arloesedd a chyfrifiaduron
  • ystafelloedd golygu
  • gofodau ymchwil ôl-raddedig
  • grisiau cymdeithasol

"Mae hwn yn gyfle cyffrous, ac mae’r Ysgol yn ymdrechu i wneud yn fawr ohono er lles ein Prifysgol a’i myfyrwyr, yn ogystal ag er mwyn Caerdydd, prifddinas greadigol Cymru.”

Yr Athro Stuart Allan Pennaeth yr Ysgol