Amdanom ni

Rydym yn un o’r sefydliadau gorau yn y DU ar gyfer addysgu a gwaith ymchwil y cyfryngau, sy'n helpu i lywio meysydd cyfathrebu, y cyfryngau rhyngwladol a newyddiaduraeth.

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau ar wahanol lefelau gyda graddau ôl-raddedig sy’n amrywio o hyfforddiant sy’n seiliedig ar ymarfer, sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant, i raddau mwy academaidd. Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi cynnig rhagoriaeth o ran addysgu a hyfforddi, a gallwn gyfuno hyn â phortffolio ymchwil rhagorol. Rydym yn aml yn ennill gwobrau gan amrywiaeth eang o gyrff.

Cafodd hyn ei gydnabod yn ddiweddar yn Fframwaith Rhagoriaeth mewn Ymchwil 2014 lle daethom yn 2il am ansawdd ein hymchwil ym maes newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu. Wrth gymharu â 66 o sefydliadau eraill yn y DU, roedd 89% o'n gwaith ymchwil yn cael ei ddosbarthu fel naill ai ‘ar flaen y gad’ neu’n ‘rhyngwladol rhagorol’, a chafodd ein hamgylchedd ymchwil ac effaith ein hymchwil sgôr o 100%.

Mae tîm addysgu amrywiol, sy’n cynnwys academyddion profiadol ac arweinwyr yn y diwydiant sydd hefyd yn cyfrannu sylwebaeth a safbwyntiau arbenigol am waith ymchwil a digwyddiadau newyddion pynciol i’r cyfryngau cenedlaethol a blog yr ysgol, yn gyfrifol am gyflwyno’n darlithoedd.

Hefyd, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a’n gweithgareddau. Rydym yn cynnig diwylliant cynhwysol gydag amrywiaeth o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu.

Y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol

Ni yw cartref un o Brosiectau Ymgysylltu blaenllaw yr Is-ganghellor hefyd - Y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol. Mae'r ganolfan yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu canolfannau newyddion cymunedol yng Nghymru gan gynnig cyngor ac arweiniad i newyddiadurwyr hyper-leol yn y DU ac ar draws y byd.

Cyn-gynhyrchydd cyfryngau cymdeithasol y BBC, Emma Meese, sy’n rheoli’r ganolfan. Mae’n cynnig y cyfle i newyddiadurwyr hyper-leol a chymunedol i rwydweithio, cael gwybodaeth a hyfforddiant, ac mae’n cefnogi dulliau newydd o newyddiaduraeth ddigidol, leol ac yn canfod modelau newydd, cynaliadwy ar gyfer newyddion.