Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Tîm o ysgolheigion rhyngwladol ydym ni, sy’n hyrwyddo gwaith ymchwil ym meysydd newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant, trwy berthnasoedd gyda’r gymuned academaidd fyd-eang, yn ogystal â threfniadau cydweithio gyda’r diwydiannau creadigol, cyrff llunio polisi, elusennau a grwpiau cymdeithas sifil.

Rydym ni’n dadansoddi polisi’r cyfryngau, cynrychiolaethau ac arferion, gyda ffocws ar heriau yn awr ac yn y dyfodol.

Ein clystyrau ymchwil

Trefnir ein hymchwil o amgylch tri chlwstwr sy’n gorgyffwrdd, yn cefnogi synergedd deallusol, cynnig am grantiau a gweithgareddau sy’n cael effaith.

Newyddiaduraeth a Democratiaeth

Mae’r clwstwr hwn yn rhoi sylw i bynciau megis natur ddiduedd newyddion a ddarlledir, sylw a roddir i fewnfudo, ac adroddiadau gwyddoniaeth trwy brism newyddiaduraeth a’r diwydiannau cysylltiedig.

Cyfryngau Digidol a Chymdeithas

Mae’r clwstwr ymchwil hwn yn archwilio sut y defnyddir y cyfryngau digidol mewn amrywiaeth o gyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol.

Y Cyfryngau, Diwylliant a Chreadigrwydd

Mae’r clwstwr hwn yn cyfuno arbenigedd ymchwil ym meysydd cerddoriaeth, ffotograffiaeth, ffilm a theledu, ac mae’n cydweithio ag asiantaethau creadigol.

Yn ogystal â’n clystyrau, rydym ni’n gartref i Ganolfan Tom Hopkinson ar Hanes y Cyfryngau, sy’n ymgorffori chwe archif pwysig o newyddiaduraeth print a darlledu.

Ymchwil ryngddisgyblaethol

Mae ein hymchwil yn elwa o drefniadau cydweithio rhyngddisgyblaethol gyda disgyblaethau megis y gwyddorau iechyd, seicoleg, cyfrifiadureg, y gyfraith a meddygaeth.

Rydym hefyd yn gweithio gydag ysgolion academaidd eraill ar draws Prifysgol Caerdydd i sicrhau dyfarniadau ar y cyd, ochr yn ochr â chefnogi prosiectau dan arweiniad ysgolion eraill.

Yr Amgylchedd Ymchwil

Mae ein diwylliant ymchwil yn deillio o ddull cydweithredol ein staff a’n myfyrwyr ymchwil, lle mae datblygiad personol a phroffesiynol yn rhan hanfodol o’n llwyddiant ar y cyd.

Un o brif gryfderau ein hamgylchedd yw’r ddeialog rhwng staff ymchwil a’r rhai sy’n canolbwyntio ar ymarfer. Mae hyn yn ein helpu i gyflawni ymchwil dylanwadol o ran ymarfer a pholisi yn y byd ehangach.

Mae dros draean o’n staff yn dod o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, ac mae hynny’n cyfrannu at ein gweithgareddau ymchwil lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae penodiadau diweddar wedi ehangu nifer ac amrywiaeth y staff a chyflwyno ystod ehangach o arbenigedd i’n cymuned, gan gynnwys mewn perthynas â rhannau neilltuol o’r byd megis Chile, Brasil, Rwsia ac Ynysoedd Pilipinas.

Prosiectau pwysig

Mae ein clystyrau ymchwil wedi darparu’r arbenigedd critigol i lansio sawl prosiect pwysig.

Cyfryngau Amgen a Gwybodaeth Gamarweiniol

Mae’r ffocws ar archwilio safleoedd gwleidyddol newydd sy’n dod i’r amlwg ar-lein ac ystyried yr heriau mae newyddiadurwyr prif ffrwd yn eu hwynebu wrth ddadlau yn erbyn honiadau amheus neu ddatganiadau gwleidyddol camarweiniol.

Trwy ymgysylltu â golygyddion, cyfranwyr a defnydd cyfryngau prif ffrwd ac amgen, y nod yw archwilio effaith safleoedd gwleidyddol newydd ar y cyhoedd a chanfod ble gall platfformau newyddion ychwanegu at gyfreithlonedd newydduriadol mewn ffyrdd sy’n gwasanaethu anghenion democrataidd dinasyddion yn well.

Lab Cyfiawnder Data

Lansiodd y clwstwr Cyfryngau Digidol a Chymdeithas y Lab Cyfiawnder Data yn 2017, i ymchwilio i’r perthnasoedd rhwng troi deunydd yn ddata a chyfiawnder cymdeithasol.

Y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol

Ffurfiwyd y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol (C4CJ) yn 2013 mewn ymateb i ymchwil oedd yn nodi dirywiad cyfryngau lleol a goblygiadau hynny o ran y diffyg democrataidd.

Clwstwr

Yn wreiddiol, clwstwr y Cyfryngau, Diwylliant a Chreadigrwydd oedd y gwely hadau ar gyfer Uned yr Economi Greadigol, a sefydlwyd yn 2014 mewn ymateb i ymchwil oedd yn nodi heriau ar gyfer mentrau creadigol rhanbarthol a gweithwyr ar eu liwt eu hunain.

Mae Clwstwr yn datblygu cysyniad ac ymarfer Ymchwil a Datblygu yn y diwydiannau creadigol er mwyn gwneud eco-systemau rhanbarthol yn fwy arloesol a chynaliadwy, ac mae eisoes wedi curadu mwy na 60 o brosiectau.

media.cymru

Prifysgol Caerdydd sy’n arwain y rhaglen fuddsoddi strategol hon, sy’n dwyn ynghyd 24 o bartneriaid cynhyrchu, darlledu, technoleg, prifysgol ac arweinyddiaeth leol am y tro cyntaf i roi hwb sylweddol i arloesedd yn y cyfryngau.

Bydd y rhaglen gwerth £50 miliwn yn arwain Rhanbarth Prifddinas Caerdydd i fod yn ganolbwynt byd-eang o ran arloesedd a chynhyrchu yn y cyfryngau.

Ymchwil ddoethurol ac ôl-ddoethurol

Mae ein Hysgol yn gartref i garfan amrywiol o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o’r Deyrnas Unedig, Affrica, Asia, y Dwyrain Canol, Gogledd America a chyfandir Ewrop, sy’n elwa o gefnogaeth sefydliadol ar ffurf ysgoloriaethau PhD wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ac adnoddau’r Academi Ddoethurol.

Mae ein rhaglen PhD/MPhil drosfwaol yn goruchwylio ystod eang o bynciau ym meysydd Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.

Cysylltu â ni

Mae ein clwstwr Newyddiaduraeth a democratiaeth yn ymchwilio i ecoleg newyddion sy'n datblygu'n gyflym ar draws pob math o newyddiaduraeth drwy ymchwilio i lwyfannau sy'n dod i'r amlwg, technolegau newydd ac ymddygiadau newidiol defnyddwyr.

Mae staff academaidd o'r clwstwr hwn yn ymchwilio i faterion cymdeithasol dybryd ac yn ymgysylltu â nhw, gan gydweithio â sefydliadau cyfryngau, cyfranogwyr y llywodraeth, elusennau a sefydliadau polisi i gyflawni canlyniadau ac argymhellion amserol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar bolisi ac ymarfer.

Mae pynciau ymchwil yn cynnwys didueddrwydd newyddion darlledu, Brexit, sylw i fewnfudo ac etholiadau, adrodd am ryfel a gwyddoniaeth.

Ymchwil genedlaethol a rhyngwladol

Adlewyrchir ein hymchwil yng ngwaith parhaus Dr Mike Berry, Dr Kerry Moore a Dr Inaki Garcia-Blanco ar faterion yn ymwneud â ffoaduriaid, ymchwil Dr Mike Berry a Matt Walsh ar gyni a'r argyfwng ariannola gwaith Dr Cindy Carter ar rywedd a phlant yn y newyddion .

Mae ein hymchwil hefyd yn cael ei defnyddio mewn cyd-destunau lleol a byd-eang, megis adroddiad Dr Kerry Moore am dlodi yng Nghymru, dadansoddiadau Dr Galina Miazhevich o rywioldeb yn Nwyrain Ewrop, gwaith Dr Jimenez-Martinez ar genedlaetholdeb yn America Ladina gwaith Dr Maria Kyriakidou ar ddioddefaint wedi’i gyfryngu mewn cyd-destunau byd-eang.

Yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, chwaraeodd prosiect yr Athro Stephen Cushion o 2019, 'Enhancing the accuracy and impartiality of journalism: reshaping broadcasters’ editorial guidelines and practices', ran bwysig drwy helpu i lywio adroddiadau darlledwyr am ddatblygiadau polisi ledled y DU, lle roedd Iechyd, sy’n fater datganoledig yn y DU, yn golygu bod amrywiadau cenedlaethol o ran polisïau a’r ffordd y cawsant eu rhoi ar waith.

Canolfannau ymchwil weithredu

Defnyddiwyd y clwstwr fel man i ddatblygu’r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, a sefydlwyd yn 2013, mewn ymateb i ymchwil a nododd y potensial ar gyfer newyddiaduraeth gymunedol a hyperleol. Mae'r ganolfan yn cyfuno ymchwil draddodiadol, ymchwil sy'n canolbwyntio ar weithredu, hyfforddiant a phrosiectau allgymorth i ddatblygu modelau newydd o gynhyrchu newyddion lleol. (Link to Impact case study)

Mae hefyd wedi cefnogi elfennau pwysig o waith rhyngddisgyblaethol megis y Ganolfan Ymchwil Coma ac Anhwylderau Ymwybyddiaeth - a sefydlwyd yn wreiddiol i ystyried cynrychiolaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o gyflyrau diymateb a lled-anymwybodol. Mae bellach wedi ehangu i gydweithrediadau rhyngddisgyblaethol gyda'r gyfraith, meddygaeth, niwrowyddorau ac athroniaeth i fynd i'r afael ag arferion cyfreithiol, clinigol, moesegol a gwyddonol a phroffil cyhoeddus 'ymwybyddiaeth' a’r broses o wneud penderfyniadau cymhleth ar ddiwedd oes.

Mae ein clwstwr ymchwil Cyfryngau Digidol a Chymdeithas yn ymgysylltu â’r croestoriad o ddatblygiadau technolegol a chymdeithasol newydd, megis rôl cyfryngau cymdeithasol, trawsnewidiadau mewn diwylliant digidol, mathau newydd o wleidyddiaeth ar-lein, a chasglu a defnyddio data.

Ers ei sefydlu yn 2014 mae'r clwstwr yn dwyn ynghyd gasgliad amrywiol o ymchwilwyr sy'n archwilio agweddau a dynameg cymdeithas ddigidol sy'n newid yn barhaus o safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, astudiaethau diwylliannol a newyddiaduraeth. Maent yn archwilio arferion arloesol, megis gweithrediaeth ar-lein a diwylliannau cefnogwyr, ac yn archwilio'n feirniadol oblygiadau isadeileddau digidol ar gyfer hawliau dinesig, cyfiawnder cymdeithasol a democratiaeth.

Mae monograffau ymchwil o'r clwstwr hwn yn cynnwys: Digital Citizenship in a Datafied Society (Arne Hintz, Lina Dencik, Karin Wahl-Jorgensen, 2019); The Digital Lives of Black Women in Britain (Francesca Sobande, 2020) a Hybrid Media Activism (Emiliano Treré, 2018).

Lab Cyfiawnder Data

Mae rôl gynyddol data mawr mewn cymdeithasau cyfoes wedi ffurfio ffocws penodol i'r clwstwr ymchwil hwn. Ers ei lansio yn 2017, mae'r Lab Cyfiawnder Data wedi ymchwilio i'r cydberthnasau rhwng dataeiddio a chyfiawnder cymdeithasol, gan dynnu sylw at wleidyddiaeth ac effeithiau prosesau sy'n cael eu hysgogi gan ddata.

Mae ei ymchwil barhaus yn archwilio goblygiadau defnydd sefydliadol o ddata, yn darparu ymatebion beirniadol i achosion o gamddefnyddio data a niwed sy’n gysylltiedig â data, ac yn archwilio llwybrau ar gyfer democrateiddio cymdeithasau sydd wedi’u dataeiddio. Mae'n cynnal cyfres lyfrau ar Gyfiawnder Data (gyda Sage Publications) ac yn trefnu cynhadledd bob dwy flynedd.

Mae'r lab wedi ennill buddsoddiad o dros £1.5 miliwn gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Open Society Foundations ar gyfer prosiectau ymchwil gwahanol a ariennir. Cynhelir ymchwil ar draws cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol gyda phartneriaid academaidd a rhwydweithiau cyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys undebau llafur/hawliau llafur a grwpiau undod â mudwyr.

Mae gwaith y lab wedi cael ei ddefnyddio gan sefydliadau fel yr Open Rights Group ac Algorithm Watch, mae wedi cael ei ddyfynnu mewn trafodaethau polisi allweddol megis Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Wyddoniaeth a Thechnoleg, ac mae wedi cyfrannu at ymchwiliadau mawr, gan gynnwys gan Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol ac effeithiau cyni yn y DU.

Mae clwstwr y cyfryngau, diwylliant a chreadigrwydd yn cynrychioli maes canolbwyntio newydd i'r ysgol ac yn dwyn ynghyd ystod eang a rhyng-gysylltiedig o arferion, polisïau ac astudiaethau ar draws y cyfryngau a'r diwydiannau diwylliannol.

Mae ymchwil y clwstwr yn cynnwys astudiaethau ym maes teledu a chyfryngau ffeministaidd, gwleidyddiaeth hunaniaeth, theori ddiwylliannol ac arferion cyfryngau ymgolli a chyfranogol.

Mae staff academaidd sy'n gweithio o fewn y clwstwr hwn yn aml yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau amrywiol megis dylunwyr gwefannau a gemau, gwneuthurwyr ffilm ac amgueddfeydd.

Rhwydweithiau ac arloesedd newydd

Mae'r clwstwr wedi cymryd rôl arweiniol wrth sefydlu rhwydweithiau ar gyfer ymchwil, arloesi ac effaith, wedi'u llywio gan gydweithio ar draws diwydiannau diwylliannol a chreadigol.

Er enghraifft, gwaith hirsefydlog Dr Jenny Kidd ar dreftadaeth ddiwylliannol ddigidol mewn cydweithrediad ag amgueddfeydd megis Amgueddfa Cymru, Tate Britain, yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol a Thŵr Llundain. (Link to Impact Case Study)

Mae Rhwydwaith Ymchwil Astudiaethau Crefft Ymladdyr ysgol, a lansiwyd yn 2015 gan yr Athro Paul Bowman, yn gweithredu fel rhan o’r clwstwr hwn. Nod y rhwydwaith yw cysylltu disgyrsiau disgyblaethol a diwylliannol datgysylltiedig am grefft ymladd drwy annog deialog drwy ddigwyddiadau trawsddisgyblaethol.

Mae'r rhwydwaith wedi cynnal chwe chynhadledd ryngwladol ac wedi cyhoeddi 11 copi o'r cyfnodolyn 'Martial Arts Studies', sef cyfnodolyn academaidd mynediad agored ar-lein a adolygir gan gymheiriaid sy'n cyhoeddi materion thematig ac agored. Caiff rhifynnau newydd eu cyhoeddi bob Gwanwyn a Hydref.

Cyfnodolion newydd

Cafodd Representology, cyfnodolyn academaidd a diwydiant newydd sy'n archwilio amrywiaeth yn y cyfryngau, ei lansio yn 2020.

Caiff ei gyhoeddi deirgwaith y flwyddyn ac mae’n ymroddedig i safbwyntiau ynghylch ymchwil ac arferion gorau ar sut i sicrhau bod y cyfryngau yn cynrychioli pob rhan o'r gymdeithas yn well.

Cafodd Representology ei sefydlu ar y cyd gan Dr David Dunkley-Gyimah o'r Ysgol, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Birmingham.

Canolfannau ymchwil weithredu

Mae ehangder ymchwil yr ysgol o fewn clwstwr y cyfryngau, diwylliant a chreadigrwydd wedi arwain at ddatblygu canolfannau ymchwil weithredu newydd sydd wedi ymgysylltu ac integreiddio â'r cyfryngau a diwydiannau diwylliannol yng Nghaerdydd.

Uned Economi Greadigol

Y clwstwr hwn a ddatblygodd yr Uned Economi Greadigol - a sefydlwyd yn 2014 mewn ymateb i ymchwil a nododd yr heriau i fentrau creadigol rhanbarthol mewn economi fyd-eang. Yn 2015, sefydlodd yr Uned 'Caerdydd Creadigol' sef rhwydwaith ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd sydd bellach yn cynnwys 2,700 o aelodau, gan gynnwys sefydliadau, cwmnïau a gweithwyr llawrydd. Enillodd Caerdydd Creadigol Wobr Ymgysylltu â'r Gymuned yn 2016 a dwy Wobr Cenhadaeth Sifig yn 2019.

Clwstwr Creadigol

Mae'r clwstwr hefyd yn gartref i'r cais llwyddiannus dan arweiniad yr Athro Justin Lewis ar gyfer 'Clwstwr Creadigol', sef rhaglen Ymchwil, Datblygu ac Arloesi gwerth £10 Miliwn (rhan o Raglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC)).

Sefydlwyd Clwstwr Creadigol yn 2019 i wneud De Cymru yn gadarnle ar gyfer arloesi ym maes cynhyrchu'r cyfryngau, technolegau digidol, modelau busnes a seilwaith sgrîn.

Fe'i harweinir gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ei brif bartneriaid yn y diwydiant yn cynnwys y BBC, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, ac mae ei bartneriaid eraill yn y diwydiant yn cynnwys Ffilm Cymru, Boom, Screen Alliance Cymru, Alacrity Foundation ac S4C.

Canolfan Tystiolaeth Polisi

Mewn cydweithrediad â Nesta a phrifysgolion eraill, sefydlodd yr Athro Stuart Allan Ganolfan Tystiolaeth Polisi'r Diwydiannau Creadigol (PEC). Mae wedi'i hariannu gan yr AHRC am bum mlynedd a’i nod yw llunio polisi a chanllawiau i gyflymu a llywio twf yn niwydiannau creadigol y DU – mae JOMEC yn gartref i faes gwaith 'Y celfyddydau, diwylliant a darlledu gwasanaeth cyhoeddus' a arweinir gan Allan.

Interdisciplinary research

Our research benefits from interdisciplinary collaborations with disciplines such as health sciences, psychology, computer sciences, law and medicine.

We also work with other academic schools across Cardiff University to secure joint awards whilst also supporting projects led by other schools.

Research environment

Our research culture is derived from the cooperative approach of our staff and research students, where personal and professional development is fundamental to our collective success.

A key strength is the dialogue between research and practice-based staff, which helps us to deliver research impact in terms of practice and policy in the wider world.

Over a third of our staff come from outside the UK and this contributes to our local, national and international research activities.

Recent appointments have expanded the number and diversity of staff and introduced a wider range of expertise to our community, including in relation to distinct parts of the world such as Chile, Brazil, Russia and the Philippines.

Major projects

Our research clusters have provided the critical mass of expertise to launch several major projects.

Alternative Media and Disinformation

We have two separate but related projects that focus is on exploring the rise of new online political sites (Beyond the Mainstream Media) and considering the challenges mainstream journalists face in countering dubious claims or misleading political statements (Countering Disinformation).

Centre for Community Journalism

The Centre for Community Journalism (C4CJ) has an action-research focus and supports community news publishers by facilitating recognition for hyperlocals from the National Union of Journalists and the BBC.

Clwstwr

Clwstwr is an ambitious five-year programme to create new products, services and experiences for screen. Clwstwr will build on South Wales' success in making creative content by putting research and development (R&D) at the core of production.

Coma and Disorders of Consciousness Research Centre

The Coma and Disorders of Consciousness Research Centre consists of a multi-disciplinary group of researchers exploring the cultural, ethical, legal and social dimensions of coma, vegetative and minimally conscious states.

Data Justice Lab

The Digital Media and Society cluster launched the Data Justice Lab in 2017 to investigate the relationships between datafication and social justice.

media.cymru

The media.cymru programme, led by Cardiff University, brings together 24 media production, broadcast, technology, university and local leadership partners for the first time to supercharge media innovation. The £50 million programme will make the Cardiff Capital Region a global hub for media innovation and production.

Doctoral and post-doctoral research

Our School is home to a diverse cohort of PGR students from the UK, Africa, Asia, the Middle East, North America and mainland Europe who benefit from institutional support through PhD scholarships tailored to international students and the resources of the Doctoral Academy.

Our overarching PhD/MPhil programme supervises a wide range of topics in Journalism, Media and Culture.

Contact us

JOMEC Research