Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd iaith Gymraeg

Rydym yn cydnabod y galw am raddedigion Cymraeg eu hiaith sydd â sgiliau newyddiadurol.

Mewn ymateb i'r galw hwn, rydym wedi datblygu llwybr iaith Gymraeg ar gyfer myfyrwyr israddedig, gydag adborth gan y diwydiant a chan fyfyrwyr presennol ac israddedigion. Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu dealltwriaeth o'r diwydiant ac arfer hyder yn y Gymraeg.

Drwy ddefnyddio ein henw da blaenllaw ar gyfer ymchwil, rydym hefyd yn datblygu gwaith ymchwil a gaiff ei gynhyrchu a'i gyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg, am y cyfryngau yng Nghymru. Defnyddir hyn i lywio ein haddysgu, gan annog myfyrwyr i gymryd rhan.

Gradd Gydanrhydedd

Am y tro cyntaf, bydd ein myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio gradd Gydanrhydedd yn Y Gymraeg a Newyddiaduraeth. Mae'r rhaglen hon yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau craidd a dewisol a fydd yn rhoi dealltwriaeth o iaith a llenyddiaeth i fyfyrwyr.

Bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb personol neu alwedigaethol, a hynny wrth baratoi eu hunain i ddod yn ddinasyddion gwybodus mewn cymdeithas sy’n ddirlawn gan gyfryngau.

Cyfleoedd academaidd a phroffesiynol

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi rhoi arian, sy’n golygu bod myfyrwyr bellach yn gallu astudio o leiaf 40 o gredydau y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys profiad gwaith, siaradwyr gwadd uchel eu proffil a chyfleoedd allgyrsiol.

Rydym yn cynnig modiwlau iaith Gymraeg sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gyd-fynd â gofynion y diwydiant. Mae'r modiwlau hyn yn addysgu egwyddorion sylfaenol newyddiaduraeth, a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, gan ystyried amrywiaeth yr ymchwil academaidd sy'n deillio o'r pwnc ar yr un pryd.

Mae gennym gysylltiadau a phartneriaethau rhagorol â darlledwyr a sefydliadau eraill y cyfryngau yng Nghymru. Mae ein rhwydwaith o weithwyr proffesiynol yn rhoi amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol i'r myfyrwyr.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am ein darpariaeth iaith Gymraeg neu am y cwrs israddedig, cysylltwch â'r tiwtor derbyn iaith Gymraeg, Sian Lloyd,

Sian Morgan Lloyd

Sian Morgan Lloyd

Darlithydd

Siarad Cymraeg
Email
lloydsm5@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6843