Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig a addysgir

Mae ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir, sydd wedi’u cynllunio'n ofalus, yn cynnwys agweddau ymarferol ac academaidd parhaus.

Rydym yn falch o gael cynnig cyrsiau integredig sy'n cyfuno theori a dysgu ymarferol i'n myfyrwyr mewn modd lle mae'r ddau ddull yn asio'n dda. Ein nod yw meithrin hyder ein corff myfyrwyr a'u darparu â gwybodaeth am gyfryngau'r byd go iawn ac arferion newyddiadurol sydd wedi'u seilio ar sylfaen academaidd gref. Caiff ein cyrsiau eu cynnal gan arbenigwyr y diwydiant sydd â blynyddoedd o brofiad ac sy'n angerddol dros rannu eu gwybodaeth.

Nid ydym yn credu mewn rhagoriaeth er ei les ei hunain: mae ein haddysgu ac ymchwil yn seiliedig ar ymrwymiad i foeseg, cyfrifoldeb cymdeithasol a phwysigrwydd newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu i broses ddemocrataidd iach. Fel myfyrwyr yn yr Ysgol, byddwch yn gallu cyfrannu i drafodaethau am faterion perthnasol wrth ddysgu arferion gorau'r diwydiant.

Ysgoloriaethau

Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Gradd Meistr a Addysgir Prifysgol Caerdydd gwerth o leiaf £3,000 yr un.

Cyrsiau a addysgir

"Agwedd fwyaf buddiol y cwrs yw'r profiad ymarferol o weithio â phobl sy'n dod o wledydd ledled y byd. Wrth fod mewn grwpiau gwahanol ar gyfer ystod o asesiadau ymarferol a damcaniaethol, rydych chi'n dysgu'n ddigon cyflym nad yw pawb yn anadlu, meddwl neu'n ymddwyn yn yr un modd."

Samantha Taite MA Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang

Cysylltu

Postgraduate enquiries