Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau gydag offer modern a thechnolegol ar gyfer addysgu, dysgu ac ymchwilio i gefnogi eich rhaglen gradd.

Mae ein hystod o ystafelloedd cyfrifiaduron mynediad agored yn cynnwys technoleg arloesol a meddalwedd golygu digidol ar gyfer myfyrwyr darlledu a newyddiaduraeth yn benodol. Caiff ein cyfleusterau cyfrifiadurol eu gwella a'u hehangu'n gyson er mwyn diwallu anghenion ein myfyrwyr.

Mae gan fyfyrwyr fynediad hefyd i ystod eang o gyfarpar fideo a sain proffesiynol megis recordwyr, camerâu digidol a chamerâu fideo digidol y mae modd iddynt archebu a'u defnyddio am ddim.