Ewch i’r prif gynnwys

Datblygiad a lles

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein staff drwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu a mentrau lles.

Datblygiad personol a hyfforddiant

Rydym yn darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad rhagorol. Anogwn ein holl staff i ennill y wybodaeth, y sgiliau a'r ysgogiad i wireddu potensial eu gwaith presennol a'u dyheadau personol ynglŷn â'u gyrfaoedd.

Iechyd a lles

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hybu lles ein staff trwy’r fenter Amgylchedd Gweithio Cadarnhaol, y polisi Urddas yn y Gwaith a’n Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a Chwnsela. Rydym yn cynnig trefniadau tâl salwch hael os ydych yn absennol oherwydd salwch.

Iechyd galwedigaethol

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu canolfan ragoriaeth i hyrwyddo iechyd a diogelwch staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â Phrifysgol Caerdydd. Yn ogystal, rydym yn creu ac yn cynnal gweithle ac amgylchedd gweithio diogel trwy ledaenu gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant, a thrwy archwilio a monitro’n rheolaidd.

Profion llygaid rhad ac am ddim

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur yn rheolaidd fel rhan o'ch rôl yma, mae gennych hawl i brofion llygaid yn rhad ac am ddim yn ein clinig llygaid modern, sydd yn rhan o'r Ysgol Optometreg. Byddwn hyd yn oed yn talu £50 tuag at gostau sbectol neu lensys cyffwrdd os oes eu hangen ar gyfer eich swydd ac yn cael eu prynu o Optometryddion y Brifysgol.

Rhagoriaeth mewn addysgu

Rydym yn sefydliad arian TEF gydag athrawon blaenllaw sy'n cael eu gyrru gan greadigrwydd a chwilfrydedd. Rydym yn buddsoddi mewn arloesi mewn addysg ac mewn dathlu rhagoriaeth addysgu, gyda 10 Cymrawd Addysgu Cenedlaethol, 4 Prif Gymrawd a 58 Uwch Cymrawd.

Yn ddiweddar, cawsom statws achredu gan Advance HE ar gyfer ein Rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg Prifysgol Caerdydd, sy'n rhaglenni datblygiad proffesiynol ar gyfer dysgu ac addysgu. Yn 2020, fe wnaethom ddatblygu ein Fframwaith Addysg Ddigidol i gefnogi ein staff dysgu i ddarparu profiad dysgu cyfunol ac ar-lein o ansawdd uchel i'n myfyrwyr.

Rhagoriaeth mewn ymchwil

Yn 2014, dyfarnwyd y Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil i ni am bedair blynedd arall yn sgil ein hymrwymiad i ddenu, cadw a datblygu gyrfaoedd ymchwilwyr. Yn yr un flwyddyn honno, cyraeddasom y rhestr fer ar gyfer gwobr addysg uwch y Times ar gyfer Cymorth Eithriadol i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa.

I ddarganfod mwy, gan gynnwys gwybodaeth am ein cyrsiau, gweithdai a chyngor gyrfaoedd arobryn yn benodol ar gyfer ymchwilwyr, ewch i'n tudalen we hyfforddiant a datblygiad.

Cyswllt

Ar gyfer rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Pobl Caerdydd