Ewch i’r prif gynnwys

Yr hyn y gallwn ei gynnig

Mae llwyddiant Prifysgol Caerdydd yn dibynnu'n helaeth ar ymrwymiad, egni a brwdfrydedd y bobl sy'n gweithio yma.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae ein hamgylchedd cynhwysol yn croesawu ceisiadau gan bobl ddawnus o gefndiroedd amrywiol.

Ymdrechwn i ddarparu polisïau ac amodau gwaith ardderchog ar gyfer ein staff, gyda buddion yn amrywio o wyliau hael i gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Cydbwyso bywyd-gwaith

Darganfyddwch fwy am ein pecyn o bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, gwyliau hael, cyfleoedd ar gyfer absenoldeb astudio a mwy.

Manteision ariannol

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, rydym yn cynnig cynlluniau pensiwn, talebau gofal plant a chyfraddau is ar aelodaeth chwaraeon, ymhlith pethau eraill, i bob aelod o staff.

Datblygiad a lles

Gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chwnsela a chynlluniau Datblygiad Personol Parhaus yw rhai o'r ffyrdd rydym yn dangos ein hymrwymiad cadarn i staff.

Arloesedd a chefnogaeth addysgu

Darganfyddwch sut rydyn ni'n buddsoddi mewn arloesedd addysg, datblygiad academaidd ac mewn dathlu rhagoriaeth addysgu

Cyfleusterau a gwasanaethau

Gall pob aelod o staff ddefnyddio ein llyfrgelloedd, ystafelloedd cyfrifiaduron, Meithrinfa Ysgolheigion Bach a bwytai - yn ogystal â’r cyfleusterau yn Undeb y Myfyrwyr.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau, cysylltwch â:

Pobl Caerdydd