Ewch i’r prif gynnwys

Sut i ganfod swyddi gwag

Gallwch chwilio am swyddi yn Gymraeg gan ddefnyddio allweddeiriau, teitlau swyddi, rhifau cyfeirnod, categorïau swyddi, Ysgol, Adran neu lwybr gyrfa.

I weld rhestr o'r holl gyfleoedd swyddi presennol, ewch i'n tudalennau swyddi gwag.

Gallwch hefyd greu chwiliadau a fydd yn rhoi gwybod i chi os caiff swydd wag ei phostio sy'n bodloni eich gofynion.

Cael gwybod am swyddi gwag agored sy'n bodloni eich meini prawf chwilio

Ar y dudalen sy'n dangos yr holl swyddi gwag presennol, cliciwch ar y botwm, 'Creu Asiant Chwilio'. Mae'r dudalen hon yn caniatáu i chi ddewis y meini prawf ar gyfer chwilio (ee swyddi ymchwil). Mae hefyd yn caniatáu i ni roi gwybod i chi bob dydd, wythnos, pythefnos neu fis am swyddi gwag agored sy'n bodloni eich meini prawf chwilio yn benodol. Nodwch bod rhyngwyneb y tudalennau Swyddi gwag yn Saesneg ar hyn o bryd wrth i ni ddatblygu tudalennau newydd dwyieithog.

Mae asiantau chwilio'n dod i ben yn awtomatig 90 niwrnod ar ôl eu dyddiad creu neu adnewyddu. Gallwch adnewyddu asiantau chwilio gweithredol drwy glicio ar y ddolen 'search agent manager' a chlicio ar y botwm adnewyddu.

Nid oes angen i chi fewngofnodi i chwilio swyddi gwag Prifysgol Caerdydd, ond gofynnir i chi greu cyfrif os ydych am fwrw ymlaen â chais.

Cymharu eich disgrifiad swydd delfrydol, CV neu lythyr eglurhaol â’n swyddi gwag cyfredol

Ar waelod y dudalen 'chwilio am gyfleoedd', gallwch fewnbynnu testun rhydd neu lanlwytho eich disgrifiad swydd delfrydol, CV neu lythyr eglurhaol, er mwyn rhoi manylion eich sgiliau a'ch cymwyseddau penodol, y gellir eu defnyddio i chwilio ein swyddi gwag cyfredol.