Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth i ymgeiswyr

Diolch i chi am ddangos diddordeb mewn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sut i ganfod swyddi gwag

Porwch ein swyddi gwag cyfredol i gyd, neu chwiliwch am swyddi gan ddefnyddio allweddeiriau, teitlau swyddi, rhifau cyfeirnod, categorïau swyddi, Ysgolion, Adrannau neu lwybr gyrfa.

Cymorth i ymgeiswyr swyddi rhyngwladol

Rydym yn falch o feddu ar drwydded noddi gradd A i neilltuo tystysgrifau nawdd lle bernir bod swydd yn addas o dan y system bwyntiau.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Ein nod yw sefydlu diwylliant cynhwysol yn rhydd o wahaniaethu ac yn seiliedig ar werthoedd o urddas, cwrteisi a pharch. Rydym yn cydnabod hawl pob person i gael eu trin yn unol â’r gwerthoedd hyn.