Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaethau Ymddiriedolaeth Leverhulme i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb yng nghymrodoriaethau Ymddiriedolaeth Leverhulme i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, a fydd yn cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’n rhaid i bawb sy’n datgan eu diddordeb fod â doethuriaeth neu brofiad cyfatebol o wneud ymchwil cyn derbyn cymrodoriaeth. Dim ond y rhai hynny nad ydynt eto wedi dal swydd academaidd amser llawn barhaol yn un o brifysgolion y DU neu sefydliad cyfatebol yn y DU fydd yn gymwys. Ewch i wefan Ymddiriedolaeth Leverhulme i gael rhagor o fanylion a gweld y meini prawf i gyd.

Datgan eich diddordeb

Ni ellir datgan diddordeb mwyach yn y cymrodoriaethau sydd ar gael yn 2022. Gellir datgan diddordeb nawr yn y cymrodoriaethau a fydd ar gael yn 2023.

I ddatgan eich diddordeb, anfonwch ebost at risresearchdevelopment@caerdydd.ac.uk sy’n cynnwys y manylion canlynol:

  • eich enw llawn
  • eich disgyblaeth a’r Ysgol rydych yn gofyn iddi eich derbyn

Byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r Ysgol honno.

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr Ysgol yn ymwybodol o’ch bwriad i ddatgan eich diddordeb ymhell cyn i chi wneud hynny. Fe’ch cynghorir yn gryf i ddatgan eich diddordeb yn y cymrodoriaethau cyn gynted â phosibl, a hynny cyn dyddiadau cau mewnol yr Ysgolion, a fydd ar ddiwedd 2022.

Nodwch fod gan y Brifysgol broses gadarn ar gyfer blaenoriaethu ac adolygu datganiadau o ddiddordeb er mwyn sicrhau bod y rhai o’r safon uchaf yn cael eu cyflwyno i Ymddiriedolaeth Leverhulme.

Arian cyfatebol

Bydd pob datganiad o ddiddordeb yn amodol ar yr Ysgol yn ymrwymo i roi arian cyfatebol.

Yn achos yr Ysgolion sy’n rhan o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, bydd arian cyfatebol yn cael ei roi gan y Coleg, ond mae cyfyngiad ar nifer y datganiadau o ddiddordeb y gall pob Ysgol eu cefnogi. Rydym yn croesawu datganiadau o ddiddordeb eithriadol i’w hadolygu’n fewnol.

Bydd yr Ysgolion sy’n rhan o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn ystyried datganiadau o ddiddordeb ac yn trafod eu haddasrwydd gyda’r unigolion. Bydd arian cyfatebol yn cael ei roi gan yr Ysgol sy’n rhan o’r Coleg os hoffai gefnogi datganiad o ddiddordeb. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn unigol.

Ymholiadau

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â:

Leverhulme Trust Early Career fellowship

Leverhulme Trust general enquiries