Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaethau

Ymchwilydd yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau
Ymchwilydd yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau

Ymunwch â ni a dod yn un o arweinwyr ymchwil Cymru yn y dyfodol.

Rydym yn credu mai Prifysgol Caerdydd yw un o’r lleoedd gorau yn y DU i fod yn ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa, ac rydym wastad yn chwilio am ddisgleirion y genhedlaeth nesaf i ymuno â ni. Os ydych am symud i Gaerdydd, yna byddem ni wrth ein bodd i fod eich sefydliad lletyol am un o’r llu o Gymrodoriaethau cystadleuol ac uchel eu bri sydd ar gael. Byddwn yn gweithio gyda chi i hybu capasiti ymchwil ryngwladol yng Nghymru. Gweler isod am rai o’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd.

Cymrodoriaethau presennol

Cymrodoriaethau Ôl-ddoethuriaeth yr Academi Brydeinig

Rydym yn gwahodd ymchwilwyr i fynegi diddordeb mewn Cymrodoriaethau Ôl-ddoethuriaeth yr Academi Brydeinig. Prifysgol Caerdydd yw’r sefydliad a fyddai’n eich derbyn.

Cymrodoriaethau Ymddiriedolaeth Leverhulme i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb yng nghymrodoriaethau Ymddiriedolaeth Leverhulme i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, a fydd yn cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd.

Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie ar gyfer galwad Prifysgol Caerdydd, sef y sefydliad derbyn.

Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI

Rydym yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud cais am Gymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol (FLF) Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI)

Cyfleoedd eraill am gyllid

Os nad yw’r cynlluniau hyn yn addas i chi, mae nifer o gyfleoedd eraill am gyllid a fydd yn eich galluogi i ddal cymrodoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rydym yn croesawu ymholiadau gan ddarpar ymgeiswyr am yr amrywiaeth o gynlluniau cyllid yn y DU, Ewrop a thu hwnt, sydd ar gael i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Rydym hefyd yn eich annog i gysylltu â darpar noddwr a/neu Bennaeth Ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod eich diddordeb.

Cynlluniau cyllido

Mae gan Brifysgol Caerdydd brofiad rhagorol o gefnogi ceisiadau am gymrodoriaethau. Mae nifer mawr o gynlluniau cyllido cymrodoriaeth ar gael i chi, ac mae rhai o’r mwyaf wedi’u rhestru isod. Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am eich cymhwysedd am bob un o’r cynlluniau hyn a pha lefel o gyllid sydd ar gael.

Cefnogir ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd gan nifer o elusennau meddygol mawr, y mae rhai ohonynt yn cefnogi ymchwil gyrfa gynnar drwy gymrodoriaethau. Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am y cyfleoedd hyn.

Mae gan y cynlluniau cymrodoriaethau canlynol broses frysbennu fewnol ar waith a dylech gysylltu â noddwr posibl a Phennaeth yr Ysgol i drafod eich ymchwil yn addas ac i dderbyn manylion ein proses asesu fewnol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn tanysgrifio i Research Professional sy’n dal gwybodaeth am filoedd o alwadau agored am bob disgyblaeth o dros 8,000 o gyllidwyr. Gweler gwefan Research Professional.