Ewch i’r prif gynnwys

Ein partneriaeth â Phrifysgol Bremen

University of Bremen - Glashalle building
University of Bremen - Glashalle building

Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Bremen yn cefnogi symudedd staff a myfyrwyr ac yn cynnig cyfleoedd i gael cysylltiadau rhwng staff academaidd yn ein sefydliadau, cryfhau ymdrechion ymchwil ar y cyd a datblygu mentrau cydweithredol newydd.

Llofnodwyd y bartneriaeth – 'Cynghrair Bremen-Caerdydd' – ar 8 Mawrth 2019 ac mae’n hwyluso datblygiad gweithgareddau ymchwil ar y cyd a mathau newydd o gydweithio academaidd rhwng y sefydliadau.

Mae Prifysgol Bremen yn un o 'brifysgolion ifanc' mwyaf blaenllaw yr Almaen, gyda thua 20,000 o fyfyrwyr a 2,300 o academyddion. Mae ei gweithgareddau addysgu ac ymchwil yn ymestyn ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau yn y gwyddorau naturiol, peirianneg, y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau. Ers 2012, mae wedi cael nawdd fel un o'r un ar ddeg prifysgol orau ym Menter Rhagoriaeth yr Almaen.

Mae gan Brifysgol Caerdydd gysylltiadau ymchwil gyda Phrifysgol Bremen sydd eisoes wedi ennill eu plwyf. Mae’r rhain yn cynnwys cysylltiadau trwy Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd a Chanolfan Gwyddorau Amgylcheddol Morol (MARUM) Prifysgol Bremen, a'r fenter draws-ddisgyblaeth Gwyddorau-Dyniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd a grŵp Ffuglen a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Bremen.

Mae Cynghrair Bremen-Caerdydd yn adlewyrchu blaenoriaethau strategol a rennir a bydd yn canolbwyntio'n gyntaf ar gryfderau ymchwil ategol mewn tri maes penodol: y gwyddorau cyfathrebu a chyfryngau; y gwyddorau amgylcheddol a morol; ac astudiaethau hanesyddol a llenyddol. Bydd hefyd yn agored i bob maes ddatblygu mentrau cydweithredol newydd.

Agwedd unigryw o Gynghrair Bremen-Caerdydd yw cysylltiad aelodau staff academaidd o un brifysgol i'r llall. Mae hyn yn galluogi staff i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil cydweithredol hirdymor ar y safle, i oruchwylio myfyrwyr PhD a gwneud cais am gyllid allanol trwy systemau cenedlaethol perthnasol y sefydliad partner.

Mae Cynghrair Bremen-Caerdydd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer myfyrwyr a staff PhD drwy sefydlu cronfa gydweithredol bwrpasol. Mae'r gronfa ar agor ar gyfer datblygu ymchwil ar y cyd rhwng y ddau sefydliad ym mhob disgyblaeth, yn ogystal â symudedd staff addysgu, technegol a gwasanaethau proffesiynol, er mwyn rhannu arferion gorau.

Mae Pwyllgor Gwaith yn goruchwylio'r bartneriaeth, sy'n cynnwys Is-ganghellor a Dirprwy Is-ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop Prifysgol Caerdydd, Llywydd ac Is-Lywydd Rhyngwladol ac Amrywiaeth Prifysgol Bremen, a dau aelod arall o bob sefydliad.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â’r bartneriaeth strategol gyda Phrifysgol Wyoming, cysylltwch â:

Rheolwr Ymgysylltu Partneriaethau Rhyngwladol

Sophie Lewis