Ewch i’r prif gynnwys

Ein partneriaeth â Unicamp

Ariel photograph of Universidade Estadual de Campinas
Universidade Estadual de Campinas.

Mae ein Partneriaeth Strategol gydag un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Brasil yn helpu i greu cyfleoedd am ymchwil ac addysg ar gyfer staff a myfyrwyr.

Sefydlwyd Universidade Estadual de Campinas, a elwir yn Unicamp, ym 1966 ac mae'n un o brifysgolion ymchwil-ddwys gorau America Ladin ac yn bwysig iawn ym maes gwyddoniaeth ac arloesedd ym Mrasil. Mae Unicamp yn nhalaith São Paulo, ond mae ganddi gampysau cyswllt yn Limeira a Paulínia.

Trwy sefydlu'r Bartneriaeth Strategol hon, rydym wedi sefydlu cronfa symudedd staff i gefnogi cydweithio ymchwil rhwng ein dau sefydliad ymhob maes pwnc. Byddwn hefyd yn edrych ar y cyfleoedd ar gyfer cyfnewid israddedigion ar ffurf Ysgolion Haf tymor byr a datblygu rhaglenni PhD cydweithredol ar draws pob disgyblaeth.

Mae Brasil yn rhanbarth o bwysigrwydd strategol, ac rydym am fagu partneriaethau a pherthynas fydd yn arwain at fwy o ymchwil gydweithredol mewn meysydd o gryfder. Rydym hefyd am fagu cyfnewidfa academaidd ehangach fydd yn fuddiol i'r ddwy ochr.

Yr Athro Colin Riordan Prifysgol Caerdydd

Mae'r bartneriaeth hon yn adeiladu ar gysylltiadau academaidd hirsefydlog rhwng Prifysgol Caerdydd ac Unicamp, wedi'i ffurfioli'n gyntaf yn 2015 trwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth.Mae’r Memorandwm wedi arwain at gyfres o ymweliadau oedd yn canolbwyntio ar ymchwil. Roedd y rhain yn cynnwys tua chant o aelodau staff a thwf o ran cyhoeddiadau ar y cyd, ym meysydd cyfrifiadureg, deintyddiaeth, geowyddorau, peirianneg drydanol a chemeg yn bennaf.

Rhagwelir y bydd llofnodi’r Cytundeb Partneriaeth Strategol ym mis Rhagfyr 2018 yn cryfhau ac yn dyfnhau'r berthynas. Nod y Bartneriaeth Strategol yw defnyddio rhagor o arian sbarduno mewnol yn ogystal â ffynonellau arian allanol i ddatblygu prosiectau ymchwil hirdymor, cefnogi cynlluniau symudedd myfyrwyr a staff a sefydlu fframwaith ar gyfer datblygu rhaglenni PhD cydweithredol.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy am ein gweithgareddau rhyngwladol, neu ffurfio partneriaeth gyda ni, cysylltwch â'r Swyddfa Ryngwladol.

Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr cronfa cydweithredu UNICAMP

Fel rhan o'n partneriaeth strategol ag UNICAMP, Brasil, sefydlwyd cronfa symudedd i gefnogi ymweliadau academaidd allanol i ddatblygu cydweithrediadau ymchwil, addysg a Gwasanaethau Proffesiynol rhwng y sefydliadau. Bydd y gronfa'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu ceisiadau ar y cyd ar gyfer cyllid allanol a/neu allbynnau mewn disgyblaethau penodol.

Bydd y gronfa’n helpu staff i wneud ymchwil ar y cyd. Bydd hefyd yn galluogi staff yn y gwasanaethau addysgu a phroffesiynol i ddatblygu prosiectau sy’n sicrhau canlyniadau clir a llwybr i ddatblygu a chynnal y cydweithredu sy’n digwydd.

Mae angen ymgeisydd arweiniol o'r ddwy brifysgol. Rhaid i’r ymgeiswyr arweiniol fod yn aelodau parhaol o staff neu’n aelodau o staff ar gontract cyfnod penodol na fydd yn dod i ben yn ystod y cyfnod cyllido.

Nod y gronfa yw cefnogi'r canlyniadau a nodir yn y Cytundeb Partneriaeth Strategol Ryngwladol. Rhoddir blaenoriaeth i gynigion o ansawdd uchel sy'n cefnogi un neu fwy o'r nodau strategol canlynol:

  • mentrau addysgu cydweithredol sy'n cefnogi profiad y myfyriwr
  • cyfnewid gwybodaeth academaidd a phroffesiynol, gan gynnwys rhannu arferion da
  • cydweithio ar ymchwil, gan gynnwys lledaenu canlyniadau ymchwil
  • sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil ar y cyd
  • canolfannau addysgu ar y cyd/rhagoriaeth broffesiynol/ymchwil
  • rhaglenni cyfnewid, gan gynnwys ymchwilwyr, staff academaidd a staff proffesiynol
  • gweithgareddau ar y cyd, gan gynnwys cyfarfodydd, seminarau, symposia, darlithoedd, gweithdai a chynadleddau
  • partneriaethau gyda diwydiant ym Mrasil a Chymru/y Deyrnas Unedig

Bydd penderfyniadau cyllido’n cael eu gwneud gan gyd-bwyllgor sy’n cynnwys aelodau o’r ddau sefydliad, a bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • rhagoriaeth
  • newydd-deb/arloesedd
  • effaith y prosiect
  • effaith y bartneriaeth
  • diwylliannol/enw da

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan banel ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn ymgynghoriad ag UNICAMP.

Gwybodaeth am sut i wneud cais ar fewnrwyd y staff.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy am ein gweithgareddau rhyngwladol, neu ffurfio partneriaeth gyda ni, cysylltwch â'r tîm Partneriaethau Rhyngwladol.

Rheolwr Ymgysylltu Partneriaethau Rhyngwladol

Sophie Lewis