Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda diwydiant

Roedd ICS yn bartner sefydliadol ac allweddol yn natblygiad CSconnected, y clwstwr cyntaf o led-ddargludyddion cyfansawdd yn Ewrop.

Ein nod yw cynnig y capasiti gweithgynhyrchu graddfa fach i ganolig i gyd-fynd â gweithgarwch partneriaid clwstwr eraill, gyda’r arbenigedd a’r gallu i drosi rhagoriaeth academaidd yn ddyfeisiau ymarferol y gellir eu gweithgynhyrchu ac is-systemau integredig. Y nod yn y pendraw yw cynhyrchu effaith economaidd drwy fanteisio ar Dechnolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn fasnachol ac yn academaidd.

Drwy ein bodolaeth a’n gweithrediadau, rydym yn chwarae rôl fawr yng nghlwstwr CSconnected, gan gefnogi a hyrwyddo rhagoriaeth academaidd mewn Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, ategu datblygiad cwmnïau newydd a phrosesau diwydiannol. Byddwn hefyd yn hwyluso cyflenwad pobl sgilgar iawn er mwyn cefnogi datblygiad y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd.