Ewch i’r prif gynnwys

Swyddi Gwag

Rydym wastad yn chwilio am unigolion rhagorol i gyfrannu at ein gweledigaeth o hyrwyddo technoleg o'r radd flaenaf drwy waith darganfod academaidd.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a gweithgareddau.

Bydd yr holl swyddi gwag presennol yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan.

Cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig

Mae Ysgoloriaethau PhD a ariennir ar gael trwy'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Ewch i wefan Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) i gael rhagor o wybodaeth.