Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Drwy fod ag offer o’r radd flaenaf, cyfleusterau arloesol a phobl hynod fedrus, ein nod yw sicrhau mai Prifysgol Caerdydd sy’n arwain y DU ac Ewrop ym maes technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd.

O ffonau clyfar a llechi i loerennau a’r System Leoli Fyd-eang, lled-ddargludyddion cyfansawdd sy'n gyrru'r dyfeisiau a'r technolegau rydym yn eu defnyddio heddiw. Mae’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn galluogi ymchwilwyr a'r diwydiant i gydweithio er mwyn bodloni gofynion defnyddwyr. Mae’n gwneud hyn drwy symud ymchwil academaidd yn ei blaen er mwyn gallu ei chyflwyno’n ddibynadwy ac ar fyrder i’r amgylchedd cynhyrchu.

Rydym hefyd yn cydweithredu’n uniongyrchol â’r diwydiant er mwyn datblygu cynhyrchion, prototeipio, creu dyfeisiau datblygedig, mesur a nodweddu a gwneud gwaith cynhyrchu arbrofol ar raddfa fach, a hynny drwy ddefnyddio ein harbenigedd academaidd eang i gynnig atebion arloesol i fusnesau.

Yn ogystal, bydd y Sefydliad yn canolbwyntio ar hyfforddiant arbenigol ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys arddangosiadau o offer newydd a gofodau, allgymorth, syniadau a digwyddiadau rhwydweithio.

Buddsoddiad a chyllid

Crëwyd y Sefydliad yn rhan o gynllun datblygu cyfalaf gwerth £300 miliwn y Brifysgol, sy’n cynnwys cymorth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Seilwaith Ymchwil y DU (RPIF) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

European Regional Development Fund logo

Mae’r Sefydliad yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.