Ewch i’r prif gynnwys

Arloesi

Watch a video about our work

Mae arloesedd yn ein gwaed. Mae hanes Caerdydd yn dangos bod arloesedd yn ffynnu pan ddaw Arloeswyr ynghyd i ffurfio partneriaethau yn y mannau cywir.

Rydym yn diffinio arloesedd fel gweithio mewn partneriaeth er mwyn troi syniadau’n gynhyrchion, prosesau, gwasanaethau a/neu ddatblygiadau polisi newydd sy'n ychwanegu gwerth.

Mae gennym ddiwylliant arloesedd sy’n ffynnu ac sy'n cysylltu diwydiant, busnesau, elusennau a'r llywodraeth â’n hacademyddion, yn meithrin entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr, ac yn hybu datblygiad busnesau ar lawr gwlad.

Rydym yn helpu sefydliadau i dyfu. Rydym yn gyson ym Mhum Prifysgol Uchaf Grŵp Russell ar gyfer gweithgarwch Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, gyda phrosiectau sy'n werth cyfanswm o £2.6m (2016-17).

Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn cynnig cyngor ac arian sy'n gallu helpu sefydliadau i dorri'n rhydd o'u dulliau gwaith arferol i brofi syniadau a phrosesau newydd sy'n hybu perfformiad ac yn torri costau.

Mae ein Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn estyn ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd a sectorau. Mae tîm ymroddedig yn cefnogi ein holl bartneriaid ym mhob Partneriaeth, o'r ymholiadau cychwynnol hyd at gyflawni canlyniadau.

Rydym yn cynhyrchu 82% o holl incwm Eiddo Deallusol Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, ac rydym yn cynhyrchu 92% o batentau Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru lle mae Caerdydd wedi'i henwi'n ddyfeisiwr.

Mae ein graddedigion mentrus wedi datblygu dros 260 o gwmnïau newydd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, sy'n golygu mai ni yw'r Sefydliad Addysg Uwch cyntaf yng Nghymru a'r trydydd o blith prifysgolion ymchwil-ddwys y DU yng Ngrŵp Russell o ran lefel cwmnïau newydd graddedigion.

Yn fwy na dim, rydym yn buddsoddi mewn pobl i ddatblygu partneriaethau mewn lleoedd newydd. Bydd y gwaith mwyaf i uwchraddio'r Campws mewn cenhedlaeth – Campws Arloesedd Caerdydd a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr – yn cynnig crwsibl ar gyfer twf yn y dyfodol.

Ymunwch â ni. Ni yw Cartref Arloesedd.