Ewch i’r prif gynnwys

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Accelerate

Nid yw arloesedd clinigol yn gysyniad newydd i Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae gan y ddau sefydliad hanes hir o gydweithio i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy arloesedd.

Mae'r Bartneriaeth Arloesedd Clinigol yn fenter greadigol sydd yn anelu at ddarparu gwell gofal i gleifion a chreu cyfoeth yng Nghymru.

Clinical Innovation Partnership video

Bydd y Bartneriaeth yn un ffurfiol drwy Strategaeth Arloesedd Clinigol ac yn: 

  • sefydlu ffordd i gefnogi syniadau i wella gofal cleifion gan weithwyr clingol, academyddion a myfyrwyr 
  • darparu prosesau cadarn i gefnogi syniadau sy'n arwain at gynnyrch a gwasanaethau newydd 
  • adeiladu ar gyfarfodydd aml-ddisgyblaethol ac elfennau cefnogol eraill i gynghori, sbarduno a gwarchod syniadau arloesol o safon.

Bydd y bartneriaeth agos yn helpu datblygu ffyrdd arloesol i hybu agweddau o ofal clinigol fydd yn helpu cleifion ledled Cymru.

Yr Athro Keith Harding Deon Arloesedd Clinigol ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Gwella Clwyfau C&V UHB

Drwy fanteisio ar gyfuno arbenigedd a gweithgaredd ymchwil, mae'r ddau sefydliad yn cydweithio i wella iechyd a lles drwy ddarparu buddion economaidd ehangach. 

Mae'r bartneriaeth yn anelu at daclo heriau iechyd sylweddol fel dementia sy'n gofyn am wybodaeth drylwyr o brosesau'r glefyd, diagnosis, triniaeth a materion gofal cymdeithasol. Mae cydweithio ac ymgysylltu gyda mentrau cenedlaethol yn rhan allweddol o'r strategaeth.

Astudiaethau achos

Bydd yr astudiaethau achos hyn yn canolbwyntio ar rai o'r meysydd lle mae ein harloesedd clinigol yn cael effaith bositif (cynnwys Saesneg yn unig).
Y Fest Cefnogi Tiwb Tracheostomi Newydd

Gwerthuso fest tracheostomi

Y fest a gynlluniwyd i wella arferion ffisiotherapi i alluogi cleifion tracheostomii gael eu cefn atynt ac adennill cryfder ar ôl triniaeth

The geko™ device

Treialu dyfais geko™ mewn cleifion COVID-19

Mae geko™ yn rhoi ysgogiad trydanol niwrogyhyrol di-boen i ran isaf y goes.

Falfiau allanadlu 3D wedi’u hargraffu - Enghraifft o ailbwrpasu cyfarpar er mwyn bodloni gofynion newydd.

Y GIG a pheirianwyr yn dod at ei gilydd i adeiladu canolfan

Mae'r prosiect dwy flynedd hwn yn dwyn ynghyd Softgel Solutions Ltd, Innotech Engineering, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Monitro symudiadau yn y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Cyhyrysgerbydol

Llawdriniaeth rithwir wedi’i phersonoleiddio ar gyfer triniaeth arthritis pen-glin

Mae TOKA® yn brosiect cydweithredol rhwng 3D Metal Printing a’r Ganolfan Biomecaneg Orthopedig ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Cysylltu

Am wybodaeth bellach cofiwch gysylltu.

Partneriaeth Arloesedd Clinigol

@AccelerateCIA

European Regional Development Fund
European Regional Development Fund