Ewch i’r prif gynnwys

Campws Arloesedd

Mae pobl yn cysylltu â’i gilydd, yn cydweithio ac yn creu ar Gampws Arloesedd Caerdydd.

Mae ein cyfleusterau blaenllaw yn dod â meddylwyr a gwneuthurwyr ynghyd er mwyn sbarduno syniadau. Rydym yn troi ymchwil yn gwmnïau deillio, busnesau newydd, mentrau cymdeithasol, cynhyrchion a phartneriaethau.

Rydym wedi bod yn creu partneriaethau cydweithio a hynny ar draws pob sector, ers 1883 — gan weithio gyda diwydiannau, elusennau, sefydliadau cyhoeddus a chyrff llywodraethol.

Mae dwy ganolfan bwrpasol ar Gampws Arloesedd Caerdydd.

Sbarc|spark sef cartref SBARC - parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd, ac Arloesedd Caerdydd – man creadigol ar gyfer busnesau newydd, cwmnïau deillio a phartneriaethau, llawer ohonynt wedi’u halinio â themâu cymdeithasol.

Drws nesaf, mae ein Canolfan Ymchwil Drosi yn gartref i ddau sefydliad ymchwil wyddonol blaenllaw – y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd.

Mae'r ddau’n asio mewn ffordd arbennig â’n hystâd ehangach ar Heol Maendy. Fe agorwyd yr adeilad Optometreg gerllaw yn 2008, ac yna yn 2013 fe agorwyd adeilad Hadyn Ellis, sy'n dod ag arbenigwyr ym maes sgitsoffrenia, clefyd Alzheimer ac ymchwil bôn-gelloedd canser at ei gilydd am y tro cyntaf. Lansiwyd Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, yn 2016. Mae’n un o brif gyfleusterau Ewrop ar gyfer ymchwil delweddu'r ymennydd.

Rydym yn rhagori mewn cysylltu academyddion, myfyrwyr, staff a'n partneriaid ledled y byd â’i gilydd.

Gweledigaeth fyd-eang, calon Gymreig. Dewch i ymuno â ni. Rydyn ni’n Gartref ar gyfer Arloesedd.

Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)

Cenhadaeth CUBRIC yw deall yr ymennydd ac ymddygiad mewn iechyd a chlefydau drwy ddelweddu a dulliau gwybyddol datblygedig.

Adeilad Hadyn Ellis

Mae adeilad Hadyn Ellis yn dwyn ynghyd, am y tro cyntaf, arbenigwyr mewn cyflyrau fel sgitsoffrenia, clefyd Alzheimer ac ymchwil bôn-gell canser.

Photograph looking down the staircase in spark as people stand around or walk down the stairs

sbarc|spark

Mae sbarc yn dod â syniadau'n fyw.

Llun y pensaer o'r atriwm tu mewn y Ganolfan Cymhwyso Ymchwil.

Y Ganolfan Ymchwil Drosi

Cartref i ddau sefydliad sydd ar flaen y gad: mae un ohonynt ar ddechrau taith sy'n torri tir newydd yn ei faes, tra bod y llall eisoes wedi ennill ei blwyf ac am dyfu ymhellach.