Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ymchwil yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Rydym yn ymchwilio i, ac yn rhannu angerdd am gymdeithasau a chredoau crefyddol y gorffennol, o'r cyfnod cynhanes hyd heddiw, mewn ffordd sy'n effeithio ar academia, addysgwyr, sefydliadau treftadaeth, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi'r llywodraeth, a'r cyhoedd.

Rydym yn credu mewn cryfhau cysylltiadau hirhoedlog â'r buddiolwyr allanol hyn. Rydym yn gwneud hyn drwy ystod eang o weithgareddau gan gynnwys:

  • trosglwyddo gwybodaeth
  • ysgrifennu poblogaidd
  • ennyn ymatebion artistig
  • cyfraniadau at gyfryngau rhanbarthol a chenedlaethol
  • darparu gwasanaethau proffesiynol
  • helpu drwy ddatblygu polisïau

Uchafbwyntiau

Cadw treftadaeth fetel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Mae ein hymchwil wedi llywio'r penderfyniadau i warchod ein treftadaeth fetel, o ystorfeydd archeolegol sy'n cynnwys miliynau o arteffactau sy'n olrhain hanes dynol i longau eiconig gan gynnwys y Mary Rose, SS Great Britain Brunel a’r Armada Sbaenaidd.

stock shot muslims praying

Rhoi gwybod i Fwslimiaid am roi organau

Mae Dr Mansur Ali yn helpu cyd-Fwslimiaid i archwilio agwedd eu ffydd at y gweithdrefnau achub bywyd hyn.

Stonehenge in Wiltshire

Bwyd Cynhanesyddol: newid agweddau at fwyd a gwella arferion treftadaeth

Mae archaeolegwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gwrthdroi ein dealltwriaeth o fwyd, ffermio a gwledda cynhanesyddol, gan greu newid mewn arferion treftadaeth.

Acropolis, Athens at sunset.

Trawsnewid mynediad at arysgrifau o Athen ac Atica hynafol

Attic Inscriptions Online yn datgloi ffynhonnell bwysig o gofnodion Groeg a Lladin hynafol.

Thousands of ceramic poppies fill the moat of the Tower of London.

Pwy sy’n cofio i bwy? Newid arferion coffa yn y Palasau Brenhinol Hanesyddol

Ers 2012, mae Dr Jenny Kidd o Brifysgol Caerdydd wedi gweithio gyda sefydliadau diwylliannol wrth iddynt arallgyfeirio gweithgareddau coffa ac ymgysylltu’n ystyrlon â chynulleidfaoedd anhraddodiadol ac iau.

School students looking through old bones.

Y Fryngaer Gudd: defnyddio treftadaeth i wella bywydau, cymunedau a diwylliant

Creu gorffennol newydd a dyfodol newydd: prosiect cymunedol yn datgelu 6,000 o flynyddoedd o dreftadaeth i fynd i'r afael â heriau yn y presennol.

Uchafbwyntiau'r gorffennol

Soldiers beside the sphinx.

Views of an Antique Land

A new online visual archive presents the little known Egypt and Palestine theatre of the First World War, as it was seen through the eyes of British soldiers.

Welsh flag painted on face

Hunaniaeth newidiol ymfudwyr o Gymru

Mae gwaith ymchwil yn datgelu sut y newidiodd hunaniaeth ymfudwyr o Gymru wrth iddynt addasu i ddiwylliannau newydd.

Protected hull of ss Great Britain

Achub gwaith haearn treftadaeth rhag effeithiau andwyol rhwd

Astudio dull effeithiol o wella effeithiau rhwd i helpu ein hamgueddfeydd i ddiogelu gwaith haearn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Buddhist prayer book

Ymchwil cyfieithu'n ffurfio arferion Bwdhaeth yn yr Almaen

Mae ein hymchwil arloesol i gyfieithu testun sanctaidd Bwdhaidd wedi dylanwadu ar arferion Bwdhaidd yn yr Almaen.

Birth and Death of Czechoslovakia panel

Reassessing the past: changing public understanding of Czechoslovakia's treatment of minorities

A ground-breaking project showcasing how historical research can impact the wider world and shape international policy.